Mae’r Deyrnas Unedig wedi galw’r penderfyniad i gadw Nazanin Zaghari-Ratcliffe am flwyddyn arall yn Iran fel un “cwbl annynol a heb gyfiawnhad”.

Mae’r gweithiwr elusennol Prydeinig-Iranaidd wedi’i dedfrydu i flwyddyn ychwanegol o garchar, a hithau wedi cwblhau dedfryd o bum mlynedd eisoes – treuliodd y flwyddyn ddiwethaf yn cael ei chadw mewn tŷ oherwydd y pandemig.

Dywedodd ei chyfreithiwr, Hojjat Kermani, fod y ddedfryd ychwanegol yn ymwneud â lledaenu “propaganda yn erbyn y system” – a hynny am gymryd rhan mewn protest o flaen Llysgenhadaeth Iran yn Llundain yn 2009.

Yn ogystal â’r cyfnod ychwanegol yn y carchar, mae hi hefyd wedi cael ei gwahardd rhag gadael y wlad am flwyddyn.

“Creulon”

Dywedodd Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson, ar y cyfryngau cymdeithasol bod y penderfyniad i ddedfrydu Mrs Zaghari-Ratcliffe i flwyddyn arall yn y carchar yn “greulon, annynol ac heb gyfiawnhad”.

Trydarodd: “Mae penderfyniad Iran i ddedfrydu Nazanin Zaghari-Ratcliffe i flwyddyn arall yn y carchar yn greulon, yn annynol ac heb gyfiawnhad. Mae’n rhaid iddi gael dychwelyd i’w theulu yn y Deyrnas Unedig a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i’w chael adref.”

Adleisiwyd ei sylwadau gan yr Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab, a ddywedodd mewn datganiad: “Mae hwn yn benderfyniad cwbl annynol ac heb gyfiawnhad.”

Rydym yn parhau i alw ar Iran i ryddhau Nazanin ar unwaith er mwyn iddi allu dychwelyd at ei theulu yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i’w chefnogi.”

Dywedodd Mr Johnson hefyd y bydd y Llywodraeth yn “gweithio’n galed iawn” i sicrhau ei rhyddhad, gan ddweud wrth ohebwyr: “Yn amlwg bydd yn rhaid i ni astudio manylion yr hyn y mae awdurdodau Iran yn ei ddweud.

“Dydw i ddim yn credu ei bod yn iawn o gwbl y dylid dedfrydu Nazanin i fwy o amser yn y carchar.

“Rwy’n credu ei bod yn anghywir ei bod yno yn y lle cyntaf a byddwn yn gweithio’n galed iawn i sicrhau y caiff ei rhyddhau o Iran, [ac y caiff] ddychwelyd at ei theulu yma yn y Deyrnas Unedig, yn union fel yr ydym yn gweithio ar ran yr holl achosion o wladolion deuol yn Iran.

“Ni fydd y Llywodraeth yn stopio, byddwn yn ymdrechu’n galetach, ac rydym yn gweithio gyda’n cyfeillion Americanaidd ar y mater hwn hefyd.”

Mewn datganiad, dywedodd yr AS Tulip Siddiq, sy’n cynrychioli Hampstead a Kilburn, ac felly teulu Zaghari-Ratcliffe: “Mae hyn yn ergyd ofnadwy i Nazanin a’i theulu, sydd wedi bod yn gobeithio ac yn gweddïo y byddai hi’n rhydd i ddod adref cyn bo hir.

“Mae’n drychinebus gweld Nazanin unwaith eto’n cael ei defnyddio’n sarhaus i fargeinio.

“Dywedwyd wrthym fod y Llywodraeth wedi bod yn gweithio y tu ôl i’r llenni i sicrhau rhyddhau Nazanin.

“Mae’n amlwg bod yr ymdrechion hyn wedi methu ac rydym yn haeddu esboniad brys gan weinidogion am yr hyn sydd wedi digwydd.”

Cefndir

Cafodd Mrs Zaghari-Ratcliffe ei harestio yn 2016 ar gyhuddiadau o droseddau’n ymwneud â diogelwch gwladol, a chafodd ei dedfrydu i bum mlynedd o garchar.

Cwblhaodd ran olaf ei dedfryd gan gael ei chadw mewn tŷ oherwydd yr argyfwng coronafeirws ym mis Mawrth, ond fe’i dychwelwyd i’r llys yn ddiweddarach ar gyhuddiadau newydd o “ledaenu propaganda yn erbyn y gyfundrefn”.

Dywedodd Redress, y grŵp hawliau dynol sy’n cefnogi Mrs Zaghari-Ratcliffe, fod ei chyfreithiwr yn Iran yn bwriadu apelio yn erbyn y penderfyniad.

Dywedodd cyfarwyddwr Redress, Rupert Skilbeck, nad oedd Mrs Zaghari-Ratcliffe erioed wedi cael achos llys teg yn Iran, a’i bod yn ddieuog o’r honiadau a wnaed yn ei herbyn.

Ychwanegodd: “Mae Nazanin eisoes wedi dioddef effeithiau corfforol a seicolegol difrifol o’r artaith a’r gamdriniaeth y mae wedi bod yn destun iddynt yn ystod y pum mlynedd diwethaf.

“Gall dedfryd arall o garchar … achosi niwed difrifol i’w hiechyd.

“Nid yw Nazanin erioed wedi cael achos llys teg yn Iran, ac mae’n ddieuog o’r honiadau a wnaed yn ei herbyn.

“Mae ei chadw wastad wedi bod yn anghyfreithlon o dan gyfraith ryngwladol.

“Rhaid gwrthod yr achos a dylid caniatáu iddi ddychwelyd at ei gŵr a’i merch yn y Deyrnas Unedig ar unwaith.”

Dyled

Mae rhai arsylwyr wedi cysylltu achos Mrs Zaghari-Ratcliffe â dyled hirsefydlog y mae Iran yn honni sy’n ddyledus gan y Deyrnas Unedig.

Credir bod gan y Deyrnas Unedig ddyled o hyd at £400 miliwn gydag Iran sy’n deillio o beidio â darparu tanciau yn 1979, gyda’r danfoniad wedi’i atal oherwydd y chwyldro Islamaidd.

Mae Gweinidogion wedi dweud bod Prydain yn parhau i “archwilio opsiynau” i ddatrys yr anghydfod, gan fynnu “na ellir uno’r ddau fater”.

Holodd y cyn-Ysgrifennydd Tramor, Jeremy Hunt, pam nad ymdriniwyd â’r mater o’r ddyled Gwasanaethau Milwrol Rhyngwladol (IMS).

Trydarodd: “Mae hyn mor ofidus. Ymddengys nad oes diwedd ar greulondeb Iran.

“Amhosib dychmygu beth mae’r teulu’n mynd drwyddo heddiw.

“Y cwestiwn allweddol yw pam nad yw mater dyled IMS wedi’i setlo o hyd, o ystyried bod y Deyrnas Unedig yn derbyn bod yr arian hwn yn ddyledus?”

Tensiynau

Daw’r ddedfryd newydd yng nghanol tensiynau yn y Dwyrain Canol dros raglen niwclear Iran, gyda’r wlad yn rhoi’r gorau i’r cyfyngiadau yn ei bargen niwclear yn 2015 gyda phwerau’r byd, a hynny yn sgil penderfyniad cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump yn 2018, i dynnu’n ôl o’r cytundeb.

Mae Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau, wedi mynegi awydd i ddychwelyd at y fargen os yw Iran yn parchu cyfyngiadau ar ei rhaglen niwclear.

Yn ystod galwad gydag Arlywydd Iran, Hassan Rouhani, y mis diwethaf, dywedodd Downing Street fod Mr Johnson wedi codi achos Mrs Zaghari-Ratcliffe a’r fargen niwclear, y Cynllun Gweithredu Cynhwysfawr ar y Cyd (JCPOA).

Dywedodd llefarydd Rhif 10 fod Mr Johnson wedi “pwysleisio, er bod y Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn ymrwymedig i wneud bargen niwclear Iran yn llwyddiant, fod yn rhaid i Iran atal ei holl weithgarwch niwclear sy’n torri telerau’r JCPOA ac ailddechrau cydymffurfio”.