Mae pennaeth iechyd yn honni fod profion Covid-19 a oedd i fod i gael eu defnyddio yng Nghymru wedi cael eu “hatal”, a’u gyrru i Loegr yn lle.

Dywedodd Tracey Cooper, Prif Swyddog Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru, fod gan Llywodraeth Cymru gytundeb gyda’r cwmni Roche o’r Swistir er mwyn gallu cyflenwi 5,000 prawf ychwanegol y dydd.

Mewn gohebiaeth, sydd wedi cael ei gweld gan Channel 4, mae Tracey Cooper yn dweud sut aeth trafodaethau yn eu blaen, ond fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi clywed ynghanol Mawrth 2020 fod “Roche wedi cael eu galw i gyfarfod gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Yn yr e-byst, mae hi’n dweud fod y cwmni “wedi cael cyfarwyddiadau i gadw pob prawf ychwanegol oedd ganddyn nhw er mwyn cael eu defnyddio yn Lloger ac wedi hynny, drwy gytundeb gyda’r Llywodraethau Datganoledig”.

“Sefyllfa eithaf dyrys”

Ar ôl darganfod fod y profion yn cael eu gyrru i Iechyd Cyhoeddus Lloegr, dywedodd Tracey Cooper wrth gydweithwyr fod y “cyd-destun gwleidyddol yn Lloegr” yn penderfynu beth oedd yn digwydd.

Mae hi hefyd yn disgrifio’r sefyllfa fel un “eithaf dyrys”, lle nad oedd cytundebau’n “cael eu hanrhydeddu”, ac yn beio Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Er hynny, mae Roche yn gwadu bod cytundeb wedi bodoli gyda Chymru.

Mae’n debyg na chafodd cytundeb ysgrifenedig ei ffurfio, ond bod gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddealltwriaeth gref ar lafar gyda Roche.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi cael profion Roche yn y diwedd, a hynny drwy Lywodraeth y Deyrnas Unedig, mae’n debyg iddyn nhw dderbyn 10% o’r 5,000 y dydd yr oedden nhw’n eu disgwyl.

Cafodd yr e-byst eu dangos i Andy Davies, gohebydd Channel 4, drwy Gais Rhyddid Gwybodaeth, ond cafodd cais y gwnaeth i Lywodraeth Cymru ei wrthod llynedd “oherwydd byddai, neu mae’n debyg y byddai, yn creu niwed yn y berthynas rhwng dwy neu fwy o weinyddiaethau’r Deyrnas Unedig”.

“Anwir”

Mae Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwadu’r honiad gan ddweud ei fod yn “anwir”.

“Mae’n anwir fod adnoddau profi wedi cael eu dyrannu yn annheg ar ddechrau’r pandemig, neu fod anghenion profi Lloegr wedi cael eu blaenoriaethu dros unrhyw genedl arall,” meddai llefarydd ar ran yr adran wrth ohebydd Channel 4, Andy Davies.

“Yn y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi adeiladu’r rhwydwaith fwyaf o ganolfannau profi yn hanes Prydain, sydd wedi cynnal dros 140 miliwn o brofion.

“Ym Mawrth 2020, fe wnaeth y pedair cenedl, gan gynnwys Cymru, gytuno i fynd i’r afael â phrofi ar y cyd â gweddill y Deyrnas Unedig.”

“Sgandal genedlaethol”

Mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru wedi dweud fod y “dystiolaeth newydd yn profi fod ymdrechion Cymru yn erbyn Covid wedi cael eu tanseilio’n fwriadol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod misoedd cyntaf pwysig y pandemig”.

“Dydi hyn yn ddim byd llai na sgandal genedlaethol sy’n dangos i ba raddau mae San Steffan yn trin Cymru â dirmyg.

“Rydyn ni angen atebion ar frys ynghylch pam fod y Llywodraeth Llafur Cymru wedi dewis aros yn dawel yn hytrach na siarad am weithredoedd niweidiol Llywodraeth Dorïaidd y Deyrnas Unedig. Nid yw rhain yn weithredoedd llywodraeth sy’n sefyll dros Gymru.”