Mae Diabetes UK Cymru yn annog llywodraeth nesaf Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng diabetes, gan ofyn i ymgeiswyr gyflwyno newidiadau ar gyfer pobol sy’n byw â chlefyd siwgwr.
Dyweda’r elusen fod y pandemig wedi gwneud materion yn waeth, gan fod pobol sydd a chlefyd siwgwr yn debygol o ddioddef salwch mwy difrifol ar ol cael eu heintio gyda’r coronafeirws.
Yn ôl amcangyfrifon Diabetes UK, mae tua 275,000 o bobol yn byw gyda chlefyd siwgwr yng Nghymru, sef 8.8% o’r boblogaeth – y gyfradd uchaf yn y Deyrnas Unedig.
Yn yr ugain mlynedd ddiwethaf, mae nifer y bobol sydd a’r clefyd yng Nghymru wedi dyblu, ac mae’r cyflwr yn parhau i fod ar gynnydd, gyda’r Gwasanaeth Iechyd yn rhagweld y bydd gan 11% o oedolion y wlad glefyd siwgwr erbyn 2030.
Mae’r elusen yn galw ar y llywodraeth nesaf i wella’r cymorth emosiynol a seciolegol sydd ar gael i bobol sy’n byw â chlefyd siwgwr, yn ogystal â’i gwneud hi’n haws i bobol gael gafael ar dechnoleg i’w helpu nhw i reoli’r cyflwr.
Ynghyd â hynny, mae Diabetes UK Cymru yn galw am ymdrech barhaus i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn clefyd siwgwr math 2 drwy daclo gordewdra, a chefnogi pobol sydd a chlefyd siwgwr math 2 i wella o’r cyflwr.
“Lleihau’r niwed”
“Byddai’r tri newid yma’n lleihau’r niwed mae clefyd siwgwr yn ei achosi,” meddai Dai Williams, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Diabetes UK Cymru.
“Mae pobol sydd a chefyd siwgwr wedi dweud wrthom ni fod y newidiadau yma yn bwysig iddyn nhw.
“Os ydyn ni’n cyflwyno newid yn ein gwasanaethau iechyd, gallwn leihau nifer y bobol sy’n datblygu cymhlethdodau a allai fod yn ddifrifol, yn ogystal â gwella bywydau pobol sy’n byw gyda chlefyd siwgwr.
“Byddai gweithredu yn arbed arian i’r GIG, ac yn cyflwyno gwasanaeth iechyd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
“Nid oes cymorth”
Mae un o ymgyrchwyr yr elusen yng Nghymru, Sarah Gibbs, yn byw gyda chlefyd siwgwr math 2, ac yn ystod y pandemig arweiniodd ei chyflwr at ddatblygu iselder a gorbryder.
“Cefais wybod bod gen i glefyd siwgwr saith mlynedd yn ôl, ac ni wnes i sylwi’r effaith roedd yn ei gael ar fy iechyd meddwl,” meddai Sarah Gibbs.
“Fe wnaeth y diagnosis arwain at ddatblygu anhwylder bwyta. Fe wnes i ddod yn hunan-ymwybodol iawn, ac fe wnes i ddatgysylltu oddi wrth fy ffrinidau ac fy nheulu.
“Trwy gydol y pandemig, fe wnaeth bwrn clefyd siwgwr fy ngadael i gydag iselder a gorbyder, ynghyd â’r ynysigrwydd cymdeithasol dw i wedi’i brofi,” esbonia.
“I bobol fel fi, lle mae eu profiadau gydag iechyd meddwl yn datblygu o gyflwr iechyd corfforol – nid oes cymorth.
“Dyna pam ei bod hi’n hanfodol fod pob plaid yn ymrwymo i wella’r mynediad at gymorth iechyd meddwl arbenigol ar gyfer pobol gyda chlefyd siwgwr yn ystod tymor nesaf Senedd Cymru, a dyna pam mod i’n cefnogi maniffesto Diabetes UK Cymru.”