Mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi cadarnhau nod hirdymor ei blaid i wneud addysg prifysgol yn rhad ac ddim, gan ddechrau gyda gosod cap is ar ffioedd.

Pe bai Plaid Cymru’n cael eu hethol ym mis Mai, byddai’r Llywodraeth yn lleihau uchafswm y ffi dysgu i £7,000 ar gyfer myfyrwyr sy’n dod o Gymru, ac yn astudio ym mhrifysgolion Cymru.

Dywedodd Adam Price y byddai llywodraeth Plaid Cymru hefyd yn codi’r taliad grant addysgu i adlewyrchu costau rhesymol eu pwnc yn well, yn ogystal â’r gwerth economaidd cymdeithasol i fyfyrwyr a threthdalwyr.

Ychwanegodd y byddai’r blaid yn cynyddu cyllid grant i’r myfyrwyr mwyaf difreintiedig, fel bod mwy o adnoddau ariannol yn cyrraedd y sefydliadau sy’n addysgu’r myfyrwyr sy’n fwyaf tebygol o fod angen cymorth ychwanegol.

“Taro’n arbennig o galed”

“Mae pobol ifanc wedi cael eu taro’n arbennig o galed gan y pandemig Covid gyda llawer ohonyn nhw yn ailfeddwl eu hopsiynau yn y dyfodol,” meddai Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru.

“Rydyn ni eisiau gwneud mynediad i addysg brifysgol mor deg â phosib, gan wneud addysg brifysgol am ddim unwaith eto yn y pen draw.

“Cam cyntaf llywodraeth Plaid Cymru tuag at gyflawni’r nod hwn fyddai capio ffioedd dysgu ar gyfer myfyrwyr sy’n hanu o Gymru ym mhrifysgolion Cymru ar £7,500 – gostyngiad o £1,500.

“Byddwn ar y cyd yn cynyddu lefel y cyllid prifysgol uniongyrchol, gan addasu’r taliad grant addysgu sy’n gysylltiedig â phob myfyriwr i adlewyrchu costau rhesymol y pwnc a’i werth cymdeithasol ac economaidd yn well i fyfyrwyr a threthdalwyr.

“Er mwyn sicrhau bod myfyrwyr difreintiedig yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, byddai llywodraeth y Blaid hefyd yn cynyddu faint o arian grant addysgu sy’n eu dilyn fel bod yr adnoddau ariannol cywir yn llifo i’r sefydliadau hynny sy’n addysgu’r myfyrwyr sydd fwyaf tebygol o fod angen cymorth o’r fath,” ychwanegodd.

“Rydyn ni am wyrdroi’r draen sydd wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf trwy gymell ein pobl ifanc i aros yng Nghymru i astudio.

“Bydd torri ffioedd dysgu wrth fuddsoddi mwy ym mhrifysgolion Cymru – er enghraifft trwy’r cynnydd o £100m yn flynyddol yng nghyllid y llywodraeth ar gyfer ymchwil prifysgolion – yn gwneud prifysgolion Cymru yn fwy deniadol i’n pobl ifanc, gan annog mwy ohonynt yn y dyfodol i aros yma i weithio a byw ar ôl graddio.”