Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi datgelu bargen newydd ar gyfer gogledd Cymru, gan ddweud bod llywodraethau Llafur wedi cymryd pobol a chymunedau’r gogledd yn ganiataol.

Yn ôl y Ceidwadwyr, mae yna ddatgysylltiad rhwng yr ardal a’r Senedd, mae gwasanaethau cyhoeddus yr ardal wedi cael eu “camreoli”, nid oes buddsoddi mawr mewn isadeiledd, ac mae swyddi â chyflogau da yn brin.

Pe bai’r blaid yn dod i rym wedi etholiadau’r Senedd bydden nhw’n sicrhau buddsoddiad yn y gogledd gan symud Trysorlys Cymru, a sefydlu Asiantaeth Datblygu Cymru (WDA) newydd yno gan greu 200 o swyddi.

Mae’r fargen newydd ar gyfer y gogledd hefyd yn cynnwys:

  • Creu Gweinidog ar gyfer gogledd Cymru er mwyn sicrhau nad yw’r ardal yn cael ei hanghofio eto.
  • Cyflwyno Metro Gogledd Cymru, a chysylltu trafnidiaeth gyhoeddus.
  • Adnewyddu’r A55.
  • Gwella cysylltiadau rheilffyrdd rhwng y gogledd a gogledd orllewin Lloegr, gan gynnwys meysydd awyr Lerpwl a Manceinion.
  • Gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i greu porthladd rhydd yng Nghaergybi.
  • Hybu gogledd Cymru fel atyniad i ymwelwyr rhyngwladol.
  • Sefydlu Sefydliad Technoleg Gogledd Ddwyrain Cymru
  • Lleoli casgliad Oriel Gelf Genedlaethol yn y gogledd.
  • Datblygu ysbytai cymunedol modern yn Y Rhyl a’r Fflint, ac ysgol feddygol newydd yn y gogledd.
  • Adeiladu Canolfan Diagnosis Sydyn er mwyn cwtogi’r amser mae pobol yn disgwyl am brofion.
  • Creu uned mamau a babis ar gyfer mamau sy’n dioddef â chyflyrau meddyliol ôl-esgorol.
  • Gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau cydweithio rhwng gogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr ar iechyd, cynllunio, a datblygiad economaidd.

“Anghofio” am y gogledd

“Mae llywodraethau Llafur olynol ym Mae Caerdydd wedi anghofio am ogledd Cymru am yn rhy hir, gyda buddsoddiadau bychan a gwasanaethau sy’n cael eu rhedeg yn wael, megis Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr,” meddai Mark Isherwood, ymgeisydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Delyn.

“Ond mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun i lefelu Cymru, a gwella bywydau teuluoedd ar draws yr ardal, wedi i Lafur fod ym Mae Caerdydd ers 22 mlynedd.

“Byddwn ni’n sicrhau fod cymunedau wrth wraidd penderfyniadau’r llywodraeth drwy symud Trysorlys Cymru i’r ardal, a sefydlu pencadlys y WDA, wedi’i ddiwgyio, yn y gogledd, gan greu 200 o swyddi.”

Bae Caerdydd “mor bell ag ydi San Steffan”

“I nifer o bobol yng ngogledd Cymru, gall Bae Caerdydd fod mor bell ag ydi San Steffan, neu â oedd Brwsel, a gall ymddangos i fod ymhell oddi wrth realiti,” ychwanegodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn newid hynny, ac yn gweithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno rhaglenni megis porthladd rhydd yng Nghaergybi, adnewyddu’r A55, a system Metro Gogledd Cymru er mwyn gwella cysylltedd dros yr ardal.”