Mae golwg360 wedi pori trwy faniffestos pleidiau Cymru er mwyn gwneud pen a chynffon o’u haddewidion o ran amaeth a Chymru wledig.
- Bydd y stori hon yn cael ei diweddaru wrth i ragor o faniffestos gael eu cyhoeddi.
Llafur
Prin iawn yw’r cyfeiriadau at ffermio ym maniffesto y Blaid Lafur, a chyfeirir at amaeth ond rhyw lond llaw o weithiau.
Ceir cyfeiriadau wrth drafod effeithiau Brexit ar Gymru, ac wrth drafod y camau mae Llafur eisoes wedi’u cymryd i leihau llygredd amaethyddol.
Fodd bynnag mae cyfeiriadau rhif y gwlith at Gymru wledig wedi’u rhannu rhwng amrywiol benodau’r ddogfen.
Crynodeb o addewidion:
- Creu system newydd o gymorth fferm lle fydd ffermwyr ond yn derbyn cymhorthdal am ffermio mewn modd sydd o fudd i’r amgylchedd
- Datblygu ‘Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru’ i annog cyflenwi bwyd o ffynonellau lleol yng Nghymru
- Ymestyn Coedwig Genedlaethol newydd Cymru i hyrwyddo ein tirwedd, hybu twristiaeth gynaliadwy a chefnogi ein heconomi werdd
- Dynodi Parc Cenedlaethol newydd i gwmpasu Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
- Cadw’r cynnydd o 1% yn y Dreth Trafodiadau Tir a godir ar bryniannau ail gartrefi
- Creu ‘Cynllun Tai Cymunedau Iaith Gymraeg’ i gryfhau cymunedau Cymraeg eu hiaith
- Dileu’r defnydd o blastigau untro sy’n aml yn cael eu taflu fel sbwriel, gan arbed ein moroedd a’n cefn gwlad rhag pla llygredd plastig
- Sefydlu cynllun wedi’i dargedu i hyrwyddo gwaith adfer cynefinoedd morwellt a morfeydd heli ar hyd ein harfordir
Plaid Cymru
Mae maniffesto Plaid Cymru tua dwywaith hyd maniffesto y Blaid Lafur, ac mae ganddo bennod gyfan am ‘Amaeth, Cefn Gwlad, a Thwristiaeth’.
Mae’r Blaid yn rhoi cryn sylw i faterion gwledig yn eu maniffesto, ac yn rhannu eu gweledigaeth ynghylch llu o faterion penodol – o fyd y fferm hyd at ail gartrefi.
Ar ben hyn oll mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi ‘Maniffesto Gwledig’ – dyw’r ddogfen ddim yn cynnig unrhyw beth nad oes eisoes yn y prif faniffesto.
“Mae Plaid Cymru’n cydnabod y cyfraniad enfawr y mae’r sector amaethyddol yn ei wneud i Gymru,” meddai’r maniffesto. Roedd yna lawer ormod o addewidion i’w hadlewyrchu i gyd yn y darn hwn.
Crynodeb o’r addewidion:
- Ailffocysu cefnogaeth er mwyn helpu ffermwyr i drosglwyddo at ffurfiau mwy cynaliadwy, amrywiol ac ecogyfeillgar o ddefnyddio’r tir
- Gweithredu ‘Bil Amaethyddiaeth i Gymru’ a fydd yn rhoi mwy o bwyslais ar les cyhoeddus fel datgarboneiddio, cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, a mwy o fioamrywiaeth
- Gweithio’n agos gyda Chomisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â throsedd gwledig
- Anelu i wella cysylltedd gwledig – gwasanaethau band llydan a ffôn symudol yn benodol
- Sefydlu ‘Senedd Wledig’ ymgynghorol i gryfhau llais cymunedau cefn gwlad
- Creu ‘Comisiwn y System Fwyd’ traws-sectorol i ddatblygu strategaeth fwyd gyfannol i Gymru
- Cefnogi symudiad tuag at dwristiaeth ddiwylliannol i hyrwyddo ein diwylliant amrywiol i’r byd, a chyfrannu at statws y Gymraeg fel iaith fyw
- Defnyddio grymoedd cynllunio a threthi i fynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi
Y Ceidwadwyr
Mae yna gyfeiriadau cyson at amaeth a chefn gwlad ym maniffesto’r Ceidwadwyr, ac wele restr hir o addewidion i ffermwyr islaw.
Mae’r ddogfen yn rhoi cryn sylw i gymunedau gwledig ac mae’n addo uwchraddio’r A470, a chyflwyno Cronfa Ffyrdd Gwledig gwerth £250 miliwn i gael gwared ar dyllau yn y ffordd.
Byddai’r Ceidwadwyr hefyd yn creu ‘Cronfa Ardaloedd Digyswllt’ gwerth £50 miliwn er mwyn sicrhau bod gan gymunedau gwledig gysylltiad band eang digonol.
Crynodeb o’r addewidion:
- Cefnogi ein cymunedau ffermio a’n cymunedau amaethyddol wrth i ni weithio tuag at gyrraedd ein targedau o ran allyriadau carbon.
- Cyflwyno ‘Bil Amaethyddiaeth’ i Gymru – yn sgil hyn byddai arian cyhoeddus yn cael ei roddi i ffermwyr i’w fuddsoddi mewn technoleg newydd, ac i’w helpu i ddod yn fwy cynhyrchiol
- Annog y sector cyhoeddus yng Nghymru i ‘Brynu o Gymru’ er mwyn cefnogi ein ffermwyr a lleihau costau amgylcheddol
- Gwarantu cymorth ariannol i ffermwyr Cymru ar lefel na fydd yn is na’r lefel a ddarparwyd yn flaenorol gan yr Undeb Ewropeaidd
- Gweithio gyda ffermwyr i greu cynllun cymorth ariannol newydd
- Gwrthdroi ‘Parth Perygl Nitradau Cymru gyfan’ (NVZ) a gweithio gyda ffermwyr ar y cod gwirfoddol y cytunwyd arno eisoes i leihau llygredd
- Cynorthwyo’r Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru a sicrhau ei pharhad fel y dathliad bywyd gwledig mwyaf ond un yn Ewrop
- Gweithio gyda’r Swyddfa Gartref i sefydlu Tasglu Troseddau Gwledig Cenedlaethol i Gymru
Y Democratiaid Rhyddfrydol
O ystyried bod ffocws y Democratiaid Rhyddfrydol ar gadw’u gafael ar Frycheiniog a Sir Faesyfed (eu hunig sedd, a sedd hynod wledig), does dim syndod bod llawer o sylw i gefn gwlad yn eu maniffesto.
“Mae Democratiaid Rhyddfrydol wastad wedi bod yn gefnogwyr i ffermio yng Nghymru,” meddai’r ddogfen cyn cydnabod bod newid ar droed i’r diwydiant.
Mae’r maniffesto yn ceisio taro’r balans rhwng diwygio mawr – un o obsesiynau’r blaid – a chynnal cefn gwlad Cymru fel y mae.
Crynodeb o’r addewidion:
- Buddsoddi mewn mynd i’r afael â heriau cysylltedd band eang a ffonau symudol yng Nghymru wledig
- Sicrhau na fydd unrhyw gynlluniau ariannu yn y dyfodol yn darparu ceiniog yn llai ar gyfer ffermio
- Buddsoddi yn narpariaeth tai fforddiadwy a chymdeithasol mewn cymunedau gwledig, gan gynnwys mynd i’r afael ag ail gartrefi a thai gwyliau
- Sefydlu cynllun i gymryd lle’r ‘Cynllun Taliadau Sylfaenol’ (cynllun cymhorthdal i ffermwyr)
- Cynyddu adnoddau ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru i’w galluogi i ymchwilio i, ac erlyn, achosion o lygredd
- Sefydlu ‘Tasglu’r Economi Wledig’ i archwilio anghenion tymor hir ein heconomi wledig
- Ymdrin ag anghysondebau a gwendidau i fynd i’r afael â heriau cartrefi gwyliau, a chryfhau ystyriaethau o ran iaith fel rhan o ddeddfwriaeth cynllunio
Plaid Diddymu’r Senedd
‘Datganiad Polisi’ sydd gan Blaid Diddymu’r Cynulliad yn hytrach na maniffesto arferol, a does dim llawer o gynnwys ynddo fe.
Er hynny rhoddir rhywfaint o sylw i fyd amaeth dan y pennawd ‘Helpu Ffermwyr Cymru’.
Yn y ddogfen mae’r blaid yn nodi ei bod yn erbyn deddfwriaeth ddiweddar i fynd i’r afael â llygredd amgylcheddol, a’i bod yn “blaenoriaeth cefnogaeth i ffermio mynydd Cymreig traddodiadol”.
Safiad y blaid:
- Ni ddylai Cymru gael ei thrin yn labordy ar gyfer ailwylltio
- Cefnogi’r mabwysiadu technoleg newydd ym maes amaethyddiaeth
- Diddymu corff Cyfoeth Naturiol Cymru
UKIP
Mae gan faniffesto UKIP bennod sydd yn mynd i’r afael â’r ‘Amgylchedd, Ynni, a Materion Gwledig’.
Mae’r bennod yn nodi mai “ffermwyr sydd yn gofalu am gefn gwlad Cymru, ac maen nhw wrth galon cymunedau gwledig Cymru.”
Ymosodir ar “ffocws gormodol y Blaid Lafur ar ardaloedd dinesig” wrth iddi lunio polisïau, ac mae’n dweud bod ffermwyr yn wynebu mwy o reoliadau na’r rhan fwyaf o ddiwydiannau eraill Cymru.
Crynodeb o’r addewidion:
- Gwrthdroi penderfyniad Llafur Cymru i ddynodi Cymru gyfan yn ‘Barth Perygl Nitradau’ (NVZ)
- Lansio rhaglen newydd i fynd i’r afael â’r diciâu
- Cynnal ‘Cynllun y Taliad Sylfaenol’ (BPS) i ffermwyr am o leiaf pum mlynedd
- Bydd ffermydd ucheldir yn parhau i dderbyn cymorth ariannol am resymau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol i gefnogi’r economi wledig
- Anelu at sefyllfa o fod yn hunan-gynhaliol o ran cynhyrchu bwyd
- Tanio ‘Ymgyrch Prynu Cynnyrch Cymreig’
- Cefnu ar gynlluniau ailwytlltio
Reform UK
Mae Reform UK wedi cyhoeddi ‘Cytundeb â’r Bobol’ yn hytrach na maniffesto arferol, a cheir rhywfaint o sylw i faterion gwledig yn y ddogfen fer hon.
Dan y pennawd ‘Gwledig ac Arfordirol’ nodir bod cymunedau gwledig ac arfordirol “dan fygythiad” a bod pobol ifanc yn ei chael hi’n anodd aros yn yr ardaloedd yma oherwydd diffyg gwaith a thai fforddiadwy.
Nodir hefyd bod ffermydd bychain yn diflannu “yn aml oherwydd rheoliadau gormodol”. Does dim cyfeiriadau pellach at ffermwyr, nac ychwaith amaeth.
Crynodeb o’r addewidion:
- Cadw’r ddeddfwriaeth bresennol sy’n caniatáu i gynghorau godi 100% yn fwy ar ail gartrefi sydd yn wag – ond cyflwyno polisi o sicrhau bod yr arian yma yn dychwelyd at y cymunedau
- Gorfodi perchnogion cartrefi i fynnu caniatâd cynllunio i drawsnewid eu tŷ yn fusnes – ac felly i’w wneud yn gymwys i dalu cyfraddau busnes
- Ei gwneud yn haws i bobol leol adeiladu tŷ yn eu pentref neu dref leol
- Adfywio strydoedd mawr ein trefi marchnad trwy sicrhau hyd at ddwy awr o barcio am ddim
- Creu ‘Coedwig Genedlaethol i Gymru’
Y Blaid Werdd
Mae gan faniffesto y Blaid Werdd yn rhoi cryn ystyriaeth i’r heriau mae cymunedau gwledig yn eu hwynebu dan bennawd ‘Ffenestr Werdd ar Ardaloedd Gwledig ac Arfordirol’.
“Mae llawer o ardaloedd gwledig ac arfordirol Cymru’n dioddef o dlodi a diffyg gwasanaethau,” meddai. “Bydd cymunedau’n colli eu cnewyllyn wrth i bobl ifainc ymadael am swyddi a gyrfaoedd.”
Mae yna sawl cyfeiriad at ffermio ac amaeth yn y ddogfen, ond mae geiriad yr addewidion yn amwys drwyddi-draw. Ceir cyfeiriadau anuniongyrchol at ailwylltio.
Crynodeb o’r addewidion:
- Cyflwyno ‘Bargen Newydd Werdd’ ar gyfer bwyd a ffermio, wedi’i chynllunio gan gymunedau ffermio a phobol Cymru, i gyflawni trawsnewidiad 10 mlynedd i gynhyrchiant bwyd amaeth ecolegol
- Dod â ‘Bil Amaeth’ i’r Senedd a fydd wedi’i ddatblygu gyda ffermwyr, cymunedau a mudiadau bwyd yng Nghymru – bil i sicrhau ffermio gwyrdd, yn ei hanfod
- Blaenoriaethu’r defnydd o gynllunio i gadw, adfer a, lle bo modd, gwella, nodweddion tirweddol, ecolegol, daearegol, hanesyddol, archeolegol, diwylliannol a gwledig o werth
Gwlad
Mae gan Gwlad gyfeiriadau cyson at faterion gwledig trwy gydol ei maniffesto.
“Gweithleoedd a chartrefi” yw ein cymunedau gwledig, meddai’r ddogfen, “nid tirwedd ddifrycheulyd i’w chadw ar gyfer twristiaid yn unig”.
Rhannir y cyfeiriadau rhwng sawl pennod, o ‘Amaethyddiaeth’ hyd at ‘Yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol’.
Crynodeb o’r addewidion:
- Gwrthwynebu plannu symiau enfawr o goed sy’n chwalu ffermydd a mynyddoedd cyflawn, ond yn cefnogi plannu coed brodorol mewn rhai cyd-destunau (i reoli llifogydd e.e)
- Gwarchod enw da cynnyrch amaethyddol Cymru yn ffyrnig ac yn mynnu bod ‘Brand Cymru’ yn cael ei ddefnyddio’n gyson ar gyfer cynnyrch o Gymru
- Rhwystro pobol rhag defnyddio cartrefi fel ‘ail gartrefi’ neu osod gwyliau drwy gyflwyno cynllun trwyddedu tebyg i’r hyn sy’n berthnasol ar hyn o bryd i HMOs (Tai Amlfeddiannaeth)
- Bydd angen trwydded gan y cyngor lleol ar gyfer unrhyw gartref na fwriedir iddo ei feddiannu drwy gydol y flwyddyn gan ei berchennog neu un tenant cyfreithiol
Propel
Mae gan Propel ‘Cytundeb a’r Bobol’ yn hytrach na maniffesto arferol, ac er bod y Cytundeb yn ddigon byr mae yna ambell gyfeiriad at faterion gwledig.
Bydd “gwelliannau amgylcheddol yn cael eu harwain gan y gymuned ffermio ac ni fyddant yn cael eu gorfodi arnynt o bell,” meddai’r Cytundeb am amaeth.
Bydd “gwybodaeth ac arbenigedd ffermwyr, fel gwarcheidwaid tir Cymru, yn cael ei barchu a’i roi ar waith” yn ôl y blaid ac mi fydd pwyslais yn cael ei rhoi ar “ddyfodol ffermio fel gyrfa a ffordd o fyw”.
Crynodeb o’r addewidion:
- Sefydlu Comisiwn Amaethyddiaeth i ymgynghori â’r cymunedau ffermio a physgota ar y ffordd orau o sicrhau bod mwy o fwyd yn cael ei dyfu, ei ddal a’i fwyta yng Nghymru
- Sefydlu Byrddau Datblygu Gwledig ar gyfer pob un o siroedd Cymru
- Uwchraddio rhwydwaith ffyrdd strategol Cymru i safon gwibffyrdd, gan gynnwys Gwibffordd Genedlaethol rhwng y Gogledd a’r De
- Adfer rheilffyrdd Aberystwyth i Gaerfyrddin ac Afon Wen i Fangor
Plaid Gomiwnyddol Cymru
Am blaid sydd yn cael ei chysylltu â diwydiannau trymion yn bennaf, mae yna lefel annisgwyl o sylw at gefn gwlad ym maniffesto Plaid Gomiwnyddol Cymru.
Mae yna bwyslais ar newid defnydd tir amaethyddol, a’r potensial sydd gan ynni gwyrdd.
Crynodeb o’r addewidion:
- Buddsoddiad sylweddol mewn ynni adnewyddadwy, a ffyrdd newydd o ddefnyddio’r tir/arferion amaethyddol newydd
- Rhyddhau cyfran helaeth o dir amaethyddol Cymru i ddibenion amgen megis dal a storio carbon yn naturiol, ail-goedwigo ac adfer corstiroedd naturiol
- Mewn ardaloedd gwledig ac yng nghanol dinasoedd, dylai cynghorau sefydlu canolfannau rhyngrwyd a gwasanaethau digidol i sicrhau rhwydd fynediad di-dâl i bobl sydd heb Wi-Fi
Y Gymraeg – Addewidion y pleidiau