Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn Ben Wallace wedi dweud bod y pwysau yn sgil Covid-19 yn India yn “llethol” ac y bydd y Deyrnas Unedig yn gwneud “popeth yn ein gallu” i helpu gyda’r sefyllfa.

Dywedodd wrth Sky News y bydd y DU yn anfon offer anadlu i India ac mae disgwyl i’r cyflenwadau brys gyrraedd yfory (Ebrill 27).

“Mae’r pwysau ar ysbytai yn India yn llethol ac rydym ni am wneud ein rhan i sicrhau bod ein cyfeillion yn India yn cael yr holl gefnogaeth ag y gallen nhw.”

Daw hyn wrth i amlosgfeydd ac ysbytai yn India fod dan eu sang wrth i nifer yr achosion o Covid-19 gynyddu’n sylweddol. Mae prinder ocsigen mewn ysbytai hefyd wedi cyfrannu at y broblem.

Mae nifer yr achosion yno bellach wedi cyrraedd 17 miliwn. Mae’r gweinidog iechyd wedi cyhoeddi y bu 2,767 o farwolaethau yn y 24 awr ddiwethaf, gan ddod a chyfanswm y meirw i 192,311.

Fe allai’r nifer fod yn llawer uwch gan nad yw pobl sy’n cael eu hamau o fod wedi marw o Covid-19 yn cael eu cynnwys.

Mae adroddiadau bod pobl yn marw wrth giwio i fynd i’r ysbyty neu weithiau ar y ffyrdd y tu allan, wrth aros i weld meddyg.

Mae’r adroddiadau’n mynd yn groes i honiadau’r llywodraeth nad oes “unrhyw un yn y wlad yn cael eu gadael heb ocsigen.”

Ym mis Ionawr roedd y prif weinidog, Narendra Modi, wedi datgan bod achosion o Covid-19 o dan reolaeth ac mai India oedd yn arwain wrth gynhyrchu brechlynnau ar gyfer gwledydd y byd.

Ond mae wedi wynebu beirniadaeth gynyddol am ganiatáu gwyliau Hindŵaidd a mynychu ralïau etholiadau enfawr, y mae arbenigwyr yn credu oedd wedi lledaenu’r haint.