Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi cyflwyno mesurau newydd i fynd i’r afael â heriau yn yr ardal wrth i’r cyfyngiadau clo lacio.

Pan ddaeth y cyfnod clo i ben y llynedd, daeth niferoedd uchel iawn o ymwelwyr i Eryri, a chododd nifer o broblemau gyda pharcio.

Mae’r Parc Cenedlaethol yn rhagweld y bydd nifer uchel iawn o ymwelwyr dydd yn ymweld â’r Parc eto eleni, a bydd y mesurau yn ceisio mynd i’r afael â phroblemau parcio.

Bydd eu cynlluniau yn cynnwys creu mwy o lefydd parcio yn Llanberis ar gyfer defnyddio’r system parcio a theithio i gyrraedd Pen y Pas.

Yn dilyn treial llwyddiannus y llynedd, mae’r Parc hefyd yn cyflwyno cynllun i ragarchebu lle parcio ym Mhen y Pas.

Mae’n fwriad i’r Parc Cenedlaethol a’u parterniaid drafod y posibilrwydd o ehangu’r gwasanaeth parcio a theithio hefyd.

Yn ddiweddar, mae gyrwyr tacsis wedi dweud y bydden nhw’n colli “miloedd” gan fod llai o le i’w cerbydau mewn safle parcio ar droed yr Wyddfa.

Cynllunio o flaen llaw

O ystyried gweithgareddau cyfathrebu’r Parc Cenedlaethol, bydden nhw’n annog pobol i ymweld ar amseroedd gwahanol yn ystod yr wythnos neu’r flwyddyn.

Pan yn briodol, a dim ond pan fod isadeiledd addas a chapasiti yn caniatáu, bydden nhw’n annog pobol i ymweld â llefydd gwahanol i’r cyrchfanau poblogaidd.

Yn ogystal, bydd y Parc Cenedlaethol yn annog pobol i gynllunio o flaen llaw er mwyn lleihau parcio a champio anghymdeithasol, a materion yn ymwneud â champerfans.

Bydd eu cynlluniau yn cynnwys annog ymwelwyr i ddefnyddio meysydd campio a glampio, gan ganolbwyntio ar fynd i’r afael â champio gwrth-gymdeithasol.

Daeth i’r amlwg llynedd nad oedd nifer o drigolion Llanberis yn teimlo’n saff yn eu pentref, ac mae rhai wedi codi pryderon ynghylch twristiaid yn dychwelyd i Eryri eleni.

Fel rhan o’u hymgyrch #CynllunioCanfodCaru bydd y Parc Cendlaethol yn ceisio tawelu pryderon y cymunedau, fel eu bod nhw, a’u partneriaid, yn gwarchod ac yn cyfleu anghenion yr ardal.

Dros 500 o geir wedi parcio’n anghyfreithlon ym Mharc Cenedlaethol Eryri

Cafodd yr heddlu eu galw i gynorthwyo staff y Parc ddydd Sul