Fe fydd prif was sifil y Deyrnas Unedig yn cael ei holi gan bwyllgor o Aelodau Seneddol yn ddiweddarach ynglŷn â honiadau o ymddygiad amhriodol sydd wedi cael eu gwneud gan gyn-ymgynghorydd Rhif 10, Dominic Cummings.
Roedd Dominic Cummings wedi gadael ei rôl ym mis Tachwedd y llynedd, gan feirniadu Boris Johnson yn chwyrn yn ei flog ddydd Gwener (Ebrill 23).
Mae disgwyl i Ysgrifennydd y Cabinet, Simon Case, gael ei holi am honiadau bod y Prif Weinidog Boris Johnson wedi ystyried rhoi’r gorau i ymchwiliad am ddatgelu gwybodaeth am gyflwyno ail glo, rhag ofn y byddai’n cysylltu ffrind ei ddyweddi, Carrie Symonds.
Mae Rhif 10 wedi gwadu hynny’n llwyr.
Y disgwyl yw y bydd Simon Case yn dweud bod yr ymchwiliad yn parhau, ar ôl i gynlluniau ar gyfer ail glo yn yr hydref y llynedd gael eu datgelu.
Fe fydd hefyd yn wynebu cwestiynau am reolau lobio pan fydd yn mynd gerbron y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Chyfrifon Cyhoeddus (PACAC).
Daw hyn wedi ffrae am lobio yn San Steffan yn dilyn adroddiadau bod y cyn-brif weinidog David Cameron wedi anfon negeseuon at weinidogion am y cwmni roedd yn gweithio iddo, Greensill Capital, a bod Syr James Dyson wedi cysylltu’n uniongyrchol a Boris Johnson am reolau treth pan oedd yn cynhyrchu offer anadlu yn ystod y pandemig.
Yn y cyfamser mae’r Blaid Lafur yn parhau i bwyso am eglurhad am sut cafodd gwaith adnewyddu ar fflat y prif weinidog yn Downing Street ei ariannu.
Mae eu cyfreithwyr wedi ysgrifennu at y Comisiwn Etholiadol yn galw am ymchwiliad llawn.
Mae Dominic Cummings wedi honni bod Boris Johnson wedi ystyried gofyn i gyfranwyr y Blaid Geidwadol i ariannu’r gwaith adnewyddu ond mae Rhif 10 wedi dweud mai’r Prif Weinidog oedd wedi talu am y gwaith.
Mae Dominic Cummings hefyd wedi gwadu mai fe oedd yn gyfrifol am ddatgelu gwybodaeth cyn yr ail gyfnod glo ym mis Tachwedd. Bu’n rhaid i Boris Johnson gyhoeddi’r manylion am y clo yn Lloegr yn gynt na’r disgwyl ar ôl i’r wybodaeth gael ei datgelu i’r cyfryngau.