Ar ôl i dafarndai, bwytai a chaffis gael dechrau gweini bwyd a diodydd yn yr awyr agored ddoe (dydd Llun, Ebrill 26), mae golwg360 wedi cael ymateb digon cymysg wrth holi rhai o berchnogion Cymru am eu teimladau wrth ailagor.

Mae perchennog un caffi wedi dweud nad yw hi “werth yr hasl” gweini bwyd y tu allan.

“Dim ond digon o le i ryw chwech o bobol sydd gen i tu allan ac mae tec-awê amser cinio yn gallu bod yn ddigon steady i ni fod efo dwy (aelod o staff) yma beth bynnag,” meddai Karen Jones, perchennog y Gegin Fach yng Nghaernarfon.

“Felly os byddwn i’n gweini y tu allan hefyd mi faswn i’n gorfod cael aelod o staff arall i mewn er mwyn gweini’r bwyd, clirio’r byrddau ac ati.

“Fasa fo jyst ddim werth yr hasl, dw i ddim yn meddwl.”

A dywedodd Karen Jones ei bod hi’n teimlo’n rhwystredig nad ydi hi’n cael gweini bwyd y tu mewn.

“Be’ dw i’n weld y rhwystredig ydi’r ffaith bod Lloegr wedi agor tair, bedair wythnos o’n blaenau ni.

“Ac mae o’n fwy rhwystredig bod pobol wedi trafeilio i Loegr er mwyn cael peint neu bryd o fwyd neu beth bynnag tra ’dan ni wedi bod ar gau.

“I fi, mae hynna’n fwy o risg na oes tasa ni wedi cael agor yr un pryd â nhw.”

‘Trio cadw’n positif’

“Mae o ychydig bach yn gymhleth oherwydd rydan ni wedi bod yn gwneud tec awê ac ati drwy gydol y cyfnod clo,” meddai Medina Rees, perchennog bwyty Medina yn Aberystwyth.

“O ran agor y tu allan, mae e’n oce… mae o’n dibynnu ar y tywydd.

“Mae e’n sicr yn anodd ei wneud e’n financially viable.

Ond beth mae hi’n ei feddwl am y ffordd mae’r Llywodraeth wedi mynd ati gyda’r ailagor?

“Dw i ddim yn meddwl bod lot o ddewis ganddyn nhw, nagoes?” meddai.

“Dw i’n falch fod bwyta tu fewn ddim yn rhy bell i ffwrdd oherwydd does genna’ i ddim gardd, dim ond rhoi byrddau allan ar y stryd a dw i’n ffodus mod i’n gallu gwneud hynny o leiaf.

“Mae yno fusnesau eraill sydd ddim yn gallu gwneud dim byd o hyd.

“Os ydyn nhw’n cadarnhau ein bod ni’n gallu mynd ymlaen yng nghanol mis Mai, bydda i’n hapus.

“Dw i’n meddwl bod yno chwant ar bobol i fynd allan a chefnogi busnesau.

“Mae hwn wedi bod yn gyfnod rili, rili hir a dw i’n trio cadw’n bositif.”

‘Braf gweld y locals yn ôl’

Yn y cyfamser, mae perchennog tafarn Glyntwrog ym mhentref Llanrug wedi bod yn egluro sut aeth y noson gyntaf yn ôl.

“Doedd hi ddim rhy ddrwg neithiwr, chwarae teg, roedd hi’n reit brysur ac yn braf gweld y locals yn ôl,” meddai Rutger Heerebout.

“Mae hi’n dda bod up and running eto… yma ac acw fydd hi ond gobeithio y bydd pethau’n gwella eto erbyn y penwythnos.

“Dw i’n disgwyl i fusnes bigo fyny ymhellach pan fyddwn ni’n cael ailagor y tu mewn.

“Mae hi wedi bod yn anodd ar bawb, ond dw i’n gobeithio y byddan ni’n gallu dychwelyd i ryw fath o normalrwydd yn fuan.”