Mae adolygiad wedi dod i’r casgliad nad oes rheswm dros ohirio etholiadau’r Senedd ar Fai 6.
Gan nad yw’r meini prawf ar gyfer gohirio wedi’u bodloni, bydd y paratoadau llawn ar gyfer yr etholiad ar Fai 6 yn parhau, meddai’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Cymru, Julie James.
Mae’r adroddiad yn rhoi rhagor o wybodaeth am statws y dangosyddion ar gyfer dwy set o feini prawf a gafodd eu cyhoeddi ar adeg yr adolygiad.
Yng ngoleuni’r newidiadau i’r cyfyngiadau Covid-19, mae gan ymgyrchwyr yr hawl i gynnal stondinau stryd ers ddoe (dydd Llun, Ebrill 26), gyda dim mwy na 30 person yn ymgasglu.
Y meini prawf
Roedd y meini prawf cyntaf yn canolbwyntio ar sefyllfa iechyd y cyhoedd, ac ar ddangosyddion megis cyfradd achosion coronafeirws, capasiti ysbytai, a chynnydd yn y rhaglen frechu.
Mae’r adolygiad yn dangos mai 17.6 ym mhob 100,000 o bobol Cymru yw’r gyfradd achosion ar gyfer yr wythnos yn gorffen ar Ebrill 6, a bod mwy o welyau gwag mewn ysbytai nag yn ystod yr wythnosau cynt.
Dywed yr adolygiad nad oedd unrhyw amrywiolion o bryder yn peri risg annerbyniol yng nghyd-destun cynnal yr etholiad, ac roedd y dangosyddion Lefel Rhybudd yn sefydlog.
Ynghyd â hynny, doedd dim adborth gan arweinwyr awdurdodau lleol a phartneriaid lleol, na chwaith gan weithwyr iechyd proffesiynol lleol, fyddai’n awgrymu bod cynnal yr etholiad yn risg annerbyniol.
Roedd yr ail set o feini prawf yn canolbwyntio ar statws paratoadau ar gyfer yr etholiad.
Yn y pedwerydd adolygiad hwn, ni chododd materion yn adborth y Swyddogion Canlyniadau, y Comisiwn Etholiadol, na rhanddeiliaid eraill fyddai’n awgrymu bod unrhyw ddatblygiadau wedi bod a fyddai’n effeithio ar y gallu i gynnal y bleidlais yn ddiogel.
Yn ogystal, rhoddodd Prif Swyddog Meddygol Cymru gyngor ynghylch effaith lledaeniad presennol y feirws ar y gallu i gynnal y bleidlais yn ddiogel, a chadarnhaodd nad oedd unrhyw faterion newydd i’w codi.
“Bwriad cadarn” cynnal yr etholiad
Dywed yr adroddiad fod gweinidogion yn parhau i fonitro’r sefyllfa ac, mewn sefyllfa eithriadol, gallai’r Senedd wneud penderfyniad, yn amodol ar gydsyniad 40 o’r 60 Aelod, i ohirio’r bleidlais ar unrhyw adeg cyn i’r Senedd gael ei diddymu ddydd Iau (Ebrill 29).
Er hynny, mae Julie James yn pwysleisio bod “bwriad cadarn” gan Lywodraeth Cymru i gynnal yr etholiad ar Fai 6 yn seiliedig ar y wybodaeth yn yr adolygiad.