Mae pôl newydd yn awgrymu y gallai Alba, plaid newydd Alex Salmond, ennill wyth sedd yn etholiadau Holyrood.

Cafodd y pôl ei gynnal gan Panelbase ar ran gwefan Scot Goes Pop.

Mae hefyd yn darogan 11 sedd i’r Blaid Werdd ond colledion i’r SNP, Llafur a’r Ceidwadwyr.

Byddai 6% yn cefnogi Alba yn yr etholiadau rhanbarthol, meddai, gyda mwyafrif o 16 o seddi i bleidiau sydd o blaid annibyniaeth.

Os felly, byddai gan yr SNP 61 o seddi allan o 129 – dwy sedd yn llai na’r hyn oedd ganddyn nhw ar ôl etholiadau 2016.

Y disgwyl yw y gallai’r Ceidwadwyr golli saith o’r 31 sedd sydd ganddyn nhw, gyda Llafur yn colli pedair ac yn gorffen ar 20 a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cadw eu pum sedd.

Byddai All For Unity, plaid George Galloway, yn ennill 2% o’r bleidlais ranbarthol heb ennill yr un sedd.

Dim ond 70% o’r rheiny oedd wedi pleidleisio dros yr SNP yn etholiadau San Steffan yn 2019 sy’n bwriadu pleidleisio drostyn nhw yn Holyrood, gydag 11% yn awgrymu eu bod nhw’n bwriadu pleidleisio dros Alba ac 13% dros y Blaid Werdd.

Cafodd 1,075 o bobol dros 16 oed eu holi rhwng Ebrill 21-26.

Ymateb i’r pôl

Yn ôl Alex Salmond, mae pobol yn gwrando ar neges Alba ledled yr Alban.

“Oherwydd bod darogan y bydd yr SNP yn gwneud cystal yn y bleidlais etholaethau, mae’r pôl yma’n dangos nad oes ganddyn nhw obaith o ennill unrhyw seddi rhestr,” meddai.

“Alba yw’r blaid sydd wedi creu byrder ar gyfer annibyniaeth yn yr ymgyrch etholiadol yma.

“Yr wythnos nesaf, drwy bleidleisio dros Alba ar y rhestr dros annibyniaeth, gall pobol yr Alban achosi daeargryn gwleidyddol – a bydd ei ddirgryniadau i’w teimlo yng nghalon Steffan.”

‘Annibyniaeth ar draul y pandemig’

Mae’r Ceidwadwyr yn cyhuddo’r pleidiau cenedlaetholgar o frwydro dros annibyniaeth ar draul eu hymateb i’r pandemig.

“Pan ddylai ein Senedd yn yr Alban fod yn canolbwyntio’n llwyr ar adferiad ôl-bandemig, dydy bygythiad yr uwchfwyafrif cenedlaetholgar bondigrybwyll erioed wedi bod mor real,” meddai Annie Wells, prif ymgeisydd y Ceidwadwyr yn Glasgow.

“Byddai atgasedd [Nicola] Sturgeon ac [Alex] Salmond tuag at ei gilydd yn cael ei roi o’r neilltu i orfodi refferendwm rhwygol ar rwygo’r Alban allan o’r Deyrnas Unedig.

“Ond mae gan yr holl bleidleiswyr ledled yr Alban sydd o blaid yr Undeb un ffordd sicr o atal eu cynllun peryglus a diofal, hynny ydi drwy gefnogi Ceidwadwyr yr Alban yn y bleidlais restr o’r pleidiau gan ddefnyddio’r papur pleidleisio lliw pincfelyn.”