Mae Richard Walker a’i bartner Rachel Edwards yn dweud y “bydd rhaid” i’r teulu “gael gwared ar wartheg” os na fydd Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) yn cael eu haddasu.
Ar hyn o bryd, mae’r ddau yn rhedeg fferm ddefaid a gwartheg 120 erw y tu allan i’r Barri, ac yn dweud y bydd y rheoliadau yn cael “effaith anferth” ar fusnes y fferm.
Cafodd y cynlluniau eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru y llynedd, ac maen nhw wedi cyhoeddi y bydd £11.5m ar gael mewn cyllid i helpu ffermwyr i ddilyn y rheolau newydd.
Er hynny, dydy’r ffigwr yma ddim ond yn cynrychioli 3% o’r £360m y mae disgwyl i ffermwyr Cymru orfod ei wario, yn ôl amcangyfrifon Llywodraeth Cymru.
“O le ydych chi’n cael yr arian?”
“Rydyn ni wedi cael sesiwn gyda Farming Connect i weld be’ mae’n rhaid i ni ei wneud, a wnaethon nhw ddim dweud dim byd nad oeddem ni’n ei wybod yn barod, heblaw bod gennym ni ddigon o dir i ymdopi â’r slyri rydyn ni’n ei gynhyrchu,” meddai Rachel Edwards.
“Felly ni fyddai’n rhaid i ni allforio. Ond byddai’n rhaid i ni orchuddio un o’n hiardiau ni, sy’n siâp chwithig, â slyri, a gorchuddio’r iard rydyn ni’n hel slyri iddo, a gosod storfa slyri.
“Nid oes gennym ni un ar y funud.
“Yn mynd yn ôl faint y gwnaeth y sied y gwnaethom ni ei gosod yn ddiweddar gostio, dw i ddim yn meddwl y bydd newid allan o £50,000 os ydyn ni’n trio cyrraedd gofynion y rheoliadau newydd.
“Dydi 35 buwch ddim yn dod â’r math yna o bres i chi. O le ydych chi’n cael yr arian? Ac mae’n rhaid ei dalu’n ôl ar y diwedd os ydych chi’n ei fenthyg.
“Rydyn ni’n edrych ar y plant yn gorfod talu’r hyn rydyn ni’n ei wario yn ei ôl, mae’n debyg.
“Byddai’n llawer mwy o straen gorfod talu’r arian hwnnw i gyd yn ôl na chael gwared ar y gwartheg.”
“Dim dewis” ond cael gwared ar y gwartheg
“Bydd y rheoliadau hyn yn cael effaith anferth ar fusnes ein ffarm,” meddai Richard Walker.
“Os nad oes dim yn cael ei wneud i ddiwygio neu ganslo’r hyn rydyn ni’n ei wynebu, ni fydd dewis ond cael gwared ar fy ngwartheg.
“Byddai trio dilyn y rheoliadau’n costio gormod i ni.
“Nid oes digon o arian i fynd i bawb, ac mae amcangyfrif cyfanswm y bil yn uwch na chyllid blynyddol ffarmio yng Nghymru.
“Rydyn ni’n edrych ar wario degau o filoedd er mwyn dilyn y rheolau. Ydi e werth e?”
Cymryd cyfrifoldeb tuag at yr amgylchedd
“Dw i wedi cadw gwartheg ar hyd fy oes, roedd fy nhaid yn arfer godro, ac fe roddodd e orau i odro yn y 60au. Ers hynny rydyn ni wedi bod yn gofalu am wartheg sugno,” meddai Richard Walker wedyn.
“Dyw’r ffordd rydyn ni’n cadw nhw heb newid. Ni fu’n broblem erioed, ac nid ydym ni erioed wedi cael digwyddiad llygredd yma.
“Mae’r afon gerllaw wedi cael ei phrofi lawer tro, ac nid oes byth broblem.
“Dw i, fel nifer o ffermwyr eraill, yn cymryd ein cyfrifoldeb i edrych ar ôl yr amgylchedd, gan gynnwys ein dyfroedd, o ddifri.
“Rydyn ni wedi bod yn glir wrth ddweud fod un digwyddiad yn ymwneud â llygredd yn un yn ormod, a dylai’r rhai sy’n euog o lygru ein hafonydd fod yn atebol,.
“Ond byddai cyflwyno’r rheoliadau hyn ar draws Cymru, gan fynd yn erbyn yr argymhellion mae Llywodraeth Cymru wedi’u derbyn gan eu grŵp eu hunain, yn syndod, a bydd nifer o ffermydd teuluol bach a chanolig eu maint yn gadael y busnes cadw gwartheg.”