Mae Ursula von der Leyen, Llywydd Comisiwn Ewrop, yn rhybuddio Boris Johnson i beidio â thorri amodau bargen Brexit.

Dywed fod gan fargen Brexit “ddannedd gwirioneddol”, ac na fyddai Brwsel yn oedi cyn gweithredu pe bai’r amodau’n cael eu torri gan brif weinidog Prydain, a’i bod hi’n gobeithio na fyddai’n rhaid defnyddio’r mesurau oddi mewn i’r fargen.

Ond mae hi’n nodi pryderon nad yw’r Deyrnas Unedig eto wedi cydymffurfio’n llwyr ag amodau’r cytundeb ymadael blaenorol, gan bwysleisio y byddai angen “gwyliadwraeth”.

Daw ei sylwadau wrth i Senedd Ewrop baratoi i bleidleisio ar y Cytundeb Masnach a Chydweithredu a gafodd ei gytuno ar Noswyl Nadolig, a hwnnw’n pennu’r ffordd y bydd Llywodraeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd yn cyfathrebu a chydweithio.

Mae’r cytundeb yn ei le ers Ionawr 1 ond mae angen sêl bendith Aelodau o Senedd Ewrop cyn ei weithredu’n llawn, ond mae disgwyl i’r mwyafrif ei wrthod.

‘Dechrau pennod newydd’

“Tra bod y bleidlais heddiw’n ddiwedd, mae hefyd yn ddechrau pennod newydd,” meddai Ursula von der Leyen.

“Y dewis nawr yw a fydd y bleidlais heddiw’n farc o’r safonau uchaf yn y berthynas rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig ar gyfer y degawdau nesaf, neu a ydyn ni am weld hyn fel sylfaen ar gyfer partneriaeth gref ac agos yn seiliedig ar werthoedd a buddiannau rydym yn eu rhannu.

“Dim ond hanes fydd yn dweud wrthym pa ffordd fydd yn cael ei chymryd – ond dw i’n gobeithio am yr ail.”

Perthynas dan straen

Fe fu’r berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd dan straen tros Brotocol Gogledd Iwerddon ers tro.

Mae’r protocol yn nodi’r trefniadau ôl-Brexit er mwyn atal ffin galed ag Iwerddon, ac roedd yn rhan o’r cytundeb ymadael fis Ionawr y llynedd wrth i’r Deyrnas Unedig adael y Farchnad Sengl, tra bod Gogledd Iwerddon yn dal yn rhan ohoni.

Mae’n golygu bod angen i gyfres o ddogfennau gael eu gwirio ac i archwiliadau gael eu cwblhau cyn bod nwyddau’n gallu cael eu symud rhwng y Deyrnas Unedig a Gogledd Iwerddon.

Mae’r Deyrnas Unedig wedi rhoi cyfnod o drugaredd i gael rhoi trefn ar rai agweddau o’r fargen, gan gynnwys cyflenwadau archfarchnadoedd a pharseli sy’n cael eu hanfon o’r Deyrnas Unedig i Ogledd Iwerddon, sy’n golygu nad yw gwiriadau ôl-Brexit yn cael eu gweithredu’n llawn eto.

Dyma sydd wrth wraidd y ffrae â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Ursula von der Leyen yn galw am “ddatrysiadau ar y cyd”, ac mae’n dweud y bu “peth cynnydd” yn dilyn trafodaethau ei dirprwy Maros Sefcovic a’r Arglwydd Frost, Gweinidog Brexit Llywodraeth Prydain.

‘Methiant gwleidyddol’

Yn ôl Michel Barnier, arweinydd yr Undeb Ewropeaidd yn y trafodaethau Brexit, mae Brexit yn arwydd o fethiant gwleidyddol y bloc.

“Ysgariad yw hwn,” meddai.

“Rhybudd yw Brexit, ac mae’n fethiant – yn fethiant ar ran yr Undeb Ewropeaidd.

“Ac mae’n rhaid i ni ddysgu gwersi ohono fel fel gwleidyddion yma yn Senedd Ewrop, yn y Cyngor, yn y Comisiwn, ym mhob prifddinas.

“Pam wnaeth 52% o’r Prydeinwyr bleidleisio yn erbyn Ewrop?

“Mae yna resymau dros hynny – dicter cymdeithasol a thensiwn oedd yn bod mewn sawl rhanbarth o’r Deyrnas Unedig ond hefyd mewn sawl rhanbarth o’r Undeb Ewropeaidd.

“Ein dyletswydd yw gwrando a deall teimladau’r bobol.”