Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi amlygu eu cynlluniau i gael gwared ar dlodi yng Nghymru, ac wedi addo buddsoddi i ymestyn y cynllun sy’n cynnig prydau ysgol am ddim i blant yn ystod y gwyliau.

Maen nhw’n dweud y bydden nhw hefyd buddsoddi er mwyn gwneud y stoc dai yn fwy effeithlon o ran ynni pe baen nhw’n dod i rym ar ôl etholiadau’r Senedd.

Yn ogystal, bydden nhw’n cyflwyno gofal plant am ddim ar gyfer plant rhwng tri mis a thair oed.

O dan gynlluniau’r Democratiaid Rhyddfrydol, byddai’r cynllun i roi prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau yn cael ei ymestyn, ynghyd â buddsoddiad sylweddol mewn rhaglenni i fynd i’r afael â newyn ac ynysigrwydd yn ystod gwyliau ysgol.

Cynlluniau “uchelgeisiol”

“Mae ein maniffesto ar gyfer yr etholiad fis nesaf yn cynnwys ymrwymiad i ymestyn y cynllun i gynnig prydau ysgol am ddim, er mwyn mynd i’r afael â newyn, yn ystod gwyliau ysgol y tu hwnt i’r pandemig, ac yn cynnwys buddsoddi mewn rhaglen a fyddai’n mynd i’r afael â newyn yn ystod y gwyliau, ynysigrwydd, a phlant yn cael eu cau allan,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Mae gennym ni gynlluniau uchelgeisiol i ddod â chartrefi Cymru allan o dlodi drwy syniadau fel gofal plant am ddim, ac ôl-ffitio’r hen stoc dai er mwyn eu gwneud nhw’n wyrddach ac yn fwy effeithlon o ran ynni.

“Ddylai neb fod yn llwglyd, yn dewis rhwng gwres a bwyta, neu angen dibynnu ar fanciau bwyd yn gyson.

“Am y rheswm hyn, petai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ffurfio llywodraeth, byddai prydau ysgol am ddim yn flaenoriaeth, a byddai plant yn derbyn pryd sylweddol hyd oed pan fydd ysgolion ar gau oherwydd cyfnodau clo neu wyliau ysgol.”