Mae’r corff llywodraethu pêl-droed yn Ewrop, UEFA, wedi rhoi’r hawl i dimau sy’n cystadlu yn yr Ewros enwi 26 o chwaraewyr i deithio i’r gystadleuaeth.
Ond dim ond 23 fydd yn cael bod yn y garfan ar ddiwrnod gemau.
Daw’r newid yn sgil sefyllfa Covid-19 a chwarantîn posib pe bai chwaraewyr yn profi’n bositif yn ystod y gystadleuaeth.
Fe fydd Covid-19 yn cael ei ystyried yn salwch difrifol, sy’n golygu y bydd modd galw eilydd i’r garfan pe bai chwaraewr yn profi’n bositif cyn gêm gynta’r wlad.
Gall carfan gynnwys tri golwr.
Ar ôl Mehefin 1, fe fydd nifer amhenodol o eilyddion yn gallu cael eu galw i’r garfan pe bai anaf neu salwch difrifol, ar yr amod eu bod nhw wedi cael tystysgrif feddygol.
Mae’r rheol hefyd yn berthnasol i chwaraewyr sy’n gorfod tynnu’n ôl ar ôl dod i gysylltiad â chwaraewr arall sydd wedi profi’n bositif.