Mae Andy Morrison, rheolwr tîm pêl-droed Cei Connah, yn dweud bod ei dîm wedi rhoi eu hunain mewn “safle da” i ennill tlws y Cymru Premier.

Mae’r clwb, sy’n ceisio ennill y gynghrair am yr ail dymor yn olynol, ddau bwynt uwchlaw’r Seintiau Newydd, sydd yn yr ail safle gyda thair gêm yn weddill.

Cafodd y Nomads gêm gyfartal 0-0 gyda’r Seintiau ddydd Sadwrn (Ebrill 2) ar ôl eu curo o 4-1 y penwythnos cynt i fynd i’r brig.

“Rydan ni wedi rhoi ein hunain mewn sefyllfa dda,” meddai Andy Morrison wrth BBC Radio Wales.

“Fysen ni ddim wedi gallu gofyn am fwy ar ddechrau’r tymor.

“I fod dau bwynt yn glir gyda thair gêm i’w chwarae, mae o yn ein dwylo ni.

“Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n gwneud yr hyn rydan ni wedi’i wneud drwy’r tymor a gobeithio y bydd pethau’n mynd ein ffordd ni.”

Mae Cei Connah oddi gartref yn y Barri heno (nos Fawrth, Ebrill 4), tra bod y Seintiau’n teithio i Ben-y-bont.

Canmol clwb Cei Conna

Phil Stead

Mae yna gynllun clir i’r tîm menywod ddatblygu gyda tharged o chwarae mewn cystadlaethau Ewropeaidd yn y blynyddoedd nesaf