Mae llys wedi clywed bod plismon sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio cyn-bêldroediwr croenddu wedi defnyddio gwn Taser arno am chwe gwaith yr amser arferol ac wedi ei gicio fe ddwy waith yn ei ben cyn iddo farw.

Mae’r Cwnstabl Benjamin Monk, 42, wedi’i gyhuddo o lofruddio ac o ddynladdiad Dalian Atkinson, cyn-ymosodwr Aston Villa, yn ystod helynt y tu allan i gartref ei dad yn Sir Amwythig yn 2016.

Mae’r achos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Birmingham, lle mae’r Cwnstabl Mary Ellen Bettley-Smith hefyd wedi’i chyhuddo o ymosod.

Cafodd Dalian Atkinson ei saethu am 33 eiliad cyn marw, ond pum eiliad yw’r hyd arferol ac fe wnaeth Monk barhau i wasgu’r botwm.

Roedd y ddau ar ddyletswydd gyda Heddlu Gorllewin Mercia pan gawson nhw eu galw i gartref tad Dalian Atkinson yn sgil adroddiadau bod ei fab yn ymddwyn yn rhyfedd ac yn bloeddio yn y stryd.

Roedd yn dioddef o broblemau iechyd difrifol, gan gynnwys afiechyd y galon a phroblemau pwysedd gwaed a bod ei arennau wedi methu.

Agorodd e’r drws pan aeth yr heddlu yno, gan honni mai fe oedd y Meseia.

Daeth e allan o’r eiddo ar gais yr heddlu, cyn iddyn nhw geisio ei saethu â Taser.

Ar ôl i’r ymgais fethu, fe wnaeth Dalian Atkinson fwrw darn o wydr yn nrws yr eiddo â’i ddwrn, ac fe dorrodd yn deilchion.

Defnyddiodd yr heddlu y Taser am y trydydd tro wedyn, a’i daro i’r llawr a chlywodd y llys fod yr heddlu wedi dechrau ymosod arno ar lawr.

Clywodd y llys fod Monk wedi ei gicio yn ei ben yn galed iawn nes bod olion lasau yn ei ben, tra bod Bettley-Smith wedi defnyddio’i phastwn i’w daro “sawl gwaith” tra ei fod e’n gorwedd ar lawr yng nghanol y ffordd.

Mae’r ddau blismon, oedd mewn perthynas â’i gilydd ar y pryd, yn gwadu iddyn nhw wneud unrhyw beth o’i le.

Ond mae erlynwyr yn dadlau eu bod nhw wedi defnyddio gormod o rym wrth geisio tawelu’r sefyllfa ac nad oedd Dalian Atkinson yn peri risg iddyn nhw.

‘Profiadol’

Clywodd y llys fod Benjamin Monk yn blismon profiadol oedd wedi bod yn gwasanaethu ers 14 o flynyddoedd, ac y byddai’n gwybod y gallai achosi cryn niwed wrth gicio rhywun yn y pen.

Mae’r erlynwyr yn dadlau nad oedd yn ceisio amddiffyn ei hun ar y pryd, a’i fod e wedi ymateb â “dicter” ei fod e yn y fath sefyllfa.

Doedd Mary-Ellen Bettley-Smith ddim chwaith yn ceisio amddiffyn ei hun na’i chydweithiwr, meddai erlynwyr, ac roedd hithau hefyd yn “grac”.

Doedd eu hymddygiad cyn tanio’r Taser am y trydydd tro ddim yn amheus, meddai’r erlynwyr, ond yr hyn sy’n cael ei gwestiynu yw’r defnydd o rym yn ystod y digwyddiad.

Tystion

Yn ôl llygad-dyst i’r digwyddiad, Victor Swinbourne, cwympodd Dalian Atkinson i’r llawr ar ôl cael ei saethu â Taser, ac roedd i’w weld yn anymwybodol ar lawr ar ôl “cwympo mor gyflym”.

Gwelodd e blismon yn ei “gicio’n ysgafn” ar y llawr cyn un “gic enfawr a phwerus”.

Disgrifiodd e’r gic fel pe bai e’n “cicio pêl-droed”.

Dywedodd tyst arall, Paula Quinn, sy’n byw yn y stryd lle bu farw Dalian Atkinson, ei bod hi’n credu bod plsimyn wedi ei gicio’n “rymus, 15 o weithiau”.

Dywedodd plismon arall, y Cwnstabl Ben Wright, fod Benjamin Monk “â’i droed dde yn pwyso yn erbyn pen Dalian” a’i fod e’n anymwybodol ar lawr.

Clywodd y llys fod ei byls a’i anadlu’n wan a bod rhywfaint o waed yn dod o’i ben.

Bu farw yn yr ysbyty am oddeutu 2.45yb rai oriau wedi’r digwyddiad.

Er bod ei broblemau iechyd yn golygu bod mwy o berygl y byddai’n marw, dywed yr erlynwyr y byddai wedi goroesi oni bai ei fod e wedi cael ei saethu’r trydydd tro a’i gicio yn ei ben.

Mae Benjamin Monk yn gwadu llofruddio a dynladdiad, ac mae Mary-Ellen Bettley-Smith yn gwadu ymosod gan achosi gwir niwed corfforol.

Mae’r achos yn parhau.