Mae llys wedi clywed bod sylwadau’n beirniadu Heddlu De Swydd Efrog wedi cael eu dileu o dystiolaeth plismon yn dilyn trychineb Hillsborough yn Sheffield, tra bod sylwadau am gefnogwyr meddw wedi cael aros.
Mae’r cyn-blismon Donald Denton (83), y cyn-blismon Alan Foster (74) a’r cyn-gyfreithiwr Peter Metcalf (71) wedi’u cyhuddo o olygu dogfennau er mwyn lleihau cyfrifoldeb yr heddlu am y trychineb ar Ebrill 15, 1989, pan gafodd 96 o gefnogwyr tîm pêl-droed Lerpwl eu gwasgu i farwolaeth.
Heddiw (dydd Mawrth, Mai 4), gwelodd y rheithgor gopi gwreiddiol o dystiolaeth y Cwnstabl Maxwell Groome, a chopi oedd wedi cael ei addasu.
Roedd y ddogfen wreiddiol yn dweud bod ystafell reoli’r heddlu yn y stadiwm “wedi cael ei pharlysu rywsut”, ond roedd y frawddeg wedi’i dileu yn y copi arall, ac roedd sôn am hyn mewn gohebiaeth rhwng Metcalf a Denton.
Yn yr ohebiaeth, dywedodd Metcalf fod peth o’r dystiolaeth yn “help” ond “nid yn briodol i’w gynnwys mewn datganiad o ffeithiau”.
Clywodd y llys fod Maxwell Groome wedi cwestiynu pam nad oedd amser cic gynta’r gêm wedi cael ei symud a pham fod 10% yn llai o blismyn ar ddyletswydd o’i gymharu â’r flwyddyn gynt, ac fe ddywedodd nad oedd staff ar ddyletswydd yn gyfarwydd â chymaint o bwysau, bod plismona yn y stadiwm “yn llac” a bod y trefniadau ar gyfer y gêm yn “wael”.
Cafodd yr holl sylwadau hynny eu dileu o’r dystiolaeth ac o gopi diweddarach o’r ddogfen a gafodd ei ddanfon at Heddlu West Midlands, yr heddlu oedd yn ymchwilio i’r trychineb.
Ond roedd dau baragraff allweddol wedi cael aros yn y ddogfen, a’r rheiny’n crybwyll cefnogwyr meddw a ffrwgwd rhwng cefnogwyr y tymor blaenorol.
Roedd sôn yn y ddogfen fod y plismon oedd yn rheoli’r digwyddiad fel arfer yn cerdded o amgylch y stadiwm, ond cafodd sylwadau nad oedd hynny wedi digwydd ar y diwrnod dan sylw eu dileu o’r ddogfen.
Gwelodd y rheithgor dystiolaeth fod Maxwell Groome yn gwrthwynebu llofnodi’r datganiad.
Mae Donald Denton, Alan Foster a Peter Metcalf yn gwadu’r cyhuddiadau yn eu herbyn ac mae’r achos yn parhau.