Mae’r Wal Goch a’r band enwog o’r Rhyl, The Alarm, wedi dod ynghyd i recordio cân swyddogol tîm pêl-droed Cymru ar gyfer yr Ewros, a fydd yn cael ei chyhoeddi ar Fai 28.

Cafodd ‘The Red Wall of Cymru’ ei chyfansoddi gan y canwr Mike Peters a’i recordio yn stiwdio Rockfield yn Sir Fynwy.

Ar ôl recordio’r gân, aeth y canwr i 11 o lefydd gwahanol yng Nghymru i gwrdd â chefnogwyr a’u denu i fod yn rhan o’r prosiect sy’n dathlu eu cyfraniad i’r tîm.

Bydd y gân ar gael ar CD newydd, i’w ffrydio a’i lawrlwytho ac yn ymddangos ochr yn ochr â dwy gân arall.

Bydd fersiynau amrywiol o’r caneuon yn cael eu cyhoeddi ar Fehefin 12, sef diwrnod gêm gyntaf Cymru yn y gystadleuaeth yn erbyn y Swistir.

Bydd yr elw yn mynd i’r Love Hope Strength Foundation, a gafodd ei gyd-sefydlu gan Mike Peters i gydweithio ag arbenigwyr canser i sicrhau mynediad i gleifion i driniaethau allweddol er mwyn lleihau nifer y marwolaethau y gellir eu hosgoi.

Yn unol â’r albwm, bydd e’n cerdded 177 o filltiroedd ar hyd Clawdd Offa o’r gogledd i’r de – yn cario’i gitâr arbennig sydd wedi’i chomisiynu ar gyfer y Wal Goch.

Mike Peters
Mike Peters yn Rockfield

‘Cefnogwr angerddol’

“Fel cefnogwr angerddol o Gymru ar hyd fy oes, dw i wedi bod eisiau ysgrifennu cân erioed a allai, rywsut, ddarlunio angerdd ac ymrwymiad cefnogwyr Cymru,” meddai.

“Drwy ‘The Red Wall of Cymru’, rydyn ni wedi gallu cyfuno pedwar awch: Cymru, pêl-droed, cerddoriaeth a chefnogi pobol yng Nghymru sy’n mynd i’r afael â diagnosis o ganser.

“Dw i’n credu’n gryf nad yw canser ond yn fater iechyd hanfodol, ond yn fater dynol sy’n ein cyffwrdd ni i gyd.

“Dw i’n byw â lewcemia a wynebodd fy ngwraig Jules ddiagnosis o ganser y fron ychydig flynyddoedd yn ôl.

“Ar ôl cael diagnosis cynnar a gofal arbennig ein hunain, rydyn ni wedi bod yn frwd ers tro dros sicrhau bod eraill yn gallu lleihau eu risg o ganser ac elwa o ddod o hyd iddo’n gynnar a chael triniaeth o safon.”

Cafodd y cefnogwyr eu recordio yn Aberystwyth, Caerdydd, Caerfyrddin, Conwy, Merthyr, Trefynwy, Y Drenewydd, Y Rhyl, Abertawe, Dinbych-y-pysgod a Wrecsam ac yn eu plith roedd teulu Rhian Davies, merch y diweddar Dai Davies, golwr Cymru fu farw o ganser y pancreas ym mis Chwefror.

Calonnau’r cefnogwyr

The Alarm
The Alarm a’r Wal Goch

“Gobeithio y gall ‘The Red Wall of Cymru’ ffeindio’i ffordd i mewn i galonnau a meddyliau ein cenedl yn ystod yr amserau anodd hyn pan fydd rhaid i ni i gyd, yn wahanol i 2016, ddangos ein cefnogaeth o gartref yn hytrach na bod ochr yn ochr â’r tîm yn Ewrop,” meddai wedyn.

“Wrth gynnwys y cefnogwyr yn y recordiad, gobeithio y bydd y gerddoriaeth yn codi ysbryd ein chwaraewyr wrth iddyn nhw fynd â gobeithion a breuddwydion y Cymry i stadiymau gwag Ewro 2020, gan wybod ein bod ni i gyd yno efo nhw.”

Ymhlith y cefnogwyr eraill ar y recordiad mae:

  • Charlotte Williams o’r Drenewydd, sy’n drawsryweddol ac eisiau dathlu amrywiaeth y Wal Goch
  • Brad Evans a’i ffrindiau o Landudno – mae’n berchen ar faner Cyffordd Llandudno sydd wedi’i harddangos ym mhob gêm Cymru ers degawd
  • Begw Elain o Ddyffryn Nantlle, swyddog y wasg ieuengaf Cynghreiriau’r Ardal yn 16 oed, sy’n hyrwyddo’i thîm lleol, Nantlle Vale, ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Anwen a Rhodri Charles a’u teulu o Gaerdydd, oedd wedi mynd â’u mab chwe mis oed i’r gêm fawr yn erbyn Gwlad Belg yn Ewro 2016. Mae ganddyn nhw ferch flwydd oed erbyn hyn hefyd.
  • Steve Ward o Ben-y-bont ar Ogwr, sydd wedi bod yn dilyn tîm Cymru oddi cartref ers 1997 ac sydd hefyd yn gefnogwr brwd o The Alarm. Fe wnaeth e ddathlu ei ben-blwydd yn 50 oed wrth recordio ar gyfer y gân gyda’i deulu