Mae Casnewydd ymhlith y clybiau gorau yng nghynghreiriau pêl-droed Lloegr ar gyfer ymgysylltu â chefnogwyr, yn ôl arolwg newydd.

Roedd yr Indecs Ymgysylltu â Chefnogwyr ar gyfer 2019-20 yn gosod Casnewydd yn bedwerydd o 91 tîm o Uwch Gynghrair Lloegr a’r Gynghrair Bêl-droed (EFL).

Mae Caerdydd yn rhif 81, 77 safle islaw eu gelynion pennaf Abertawe, sydd yn 28ain – rhywbeth sy’n debygol o fod yn destun cryn dipyn o ddadlau a thynnu coes yn ne Cymru.

Caerwysg (Exeter), sy’n chwarae eu pêl-droed yn yr Ail Adran gyda Chasnewydd, ddaeth i frig y tabl.

Mae’r tabl wedi’i gyhoeddi cyn adolygiad cefnogwyr sy’n cael ei arwain gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a fydd yn ystyried cynnwys cefnogwyr a modelau perchnogaeth.