Mae pedwar dyn wedi cael eu cyhuddo o herwgipio ac ymosod ar gyn-gricedwr rhyngwladol Awstralia yn Sydney.
Dywed Heddlu New South Wales fod y pedwar yn y ddalfa ar amheuaeth o gyfres o droseddau yn erbyn Stuart MacGill, gan gynnwys herwgipio unigolyn er mwyn ennill mantais.
Dydyn nhw ddim wedi gwneud cais am fechnïaeth, ac mae lle i gredu bod MacGill yn adnabod un o’r pedwar.
Aeth dyn at y cyn-gricedwr 50 oed yn ninas Sydney ar Ebrill 14 cyn i ddau ddyn arall gyrraedd a’i helpu i wthio MacGill i gefn car a’i gludo i ran arall o’r ddinas, lle dioddefodd e ymosodiad a chael ei fygwth â dryll.
Cafodd ei gadw yno am awr cyn cael ei yrru i rywle arall a chael ei ryddhau o’u gafael.
Yn ôl yr heddlu, wnaeth e ddim adrodd am y digwyddiad tan Ebrill 20 oherwydd “ofn sylweddol”, ac roedd cymhelliant ariannol y tu ôl i’r digwyddiad, er nad oedden nhw’n gofyn am arian i’w ryddhau.
Mae’r awdurdodau criced yn Awstralia yn dweud eu bod nhw’n cynnig cefnogaeth i’r cyn-droellwr coes oedd yn cystadlu am le yn y tîm cenedlaethol ochr yn ochr â Shane Warne, un o’r chwaraewyr gorau erioed, yn y 1990au a’r 2000au.
Cipiodd e 208 o wicedi mewn 44 o gemau prawf dros ei wlad rhwng 1988 a 2008