Mae rheolwr dros dro Cymru, Rob Page, yn dweud ei fod wedi cymryd rheolaeth lawn dros baratoadau’r tîm cenedlaethol ar gyfer Ewro 2020 yn absenoldeb Ryan Giggs.
Gadawodd Giggs y rôl, dros dro, ym mis Tachwedd a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Manceinion ar 26 Mai ar ôl cael ei gyhuddo o ymosod ar ei gyn-gariad a’i chwaer ac o ymddygiad o reoli neu orfodi yn ystod ei berthynas â’i gyn-gariad.
“Amgylchiadau anodd”
Dywedodd Page: “Wrth gwrs eu bod nhw’n amgylchiadau anodd, does dim cuddio rhag hynny, ond dyna yw’r sefyllfa rydyn ni wedi cael ein rhoi ynddi, felly rydyn ni’n delio â hynny yn y ffordd orau bosibl.
“Mae’r bechgyn wedi ymateb mewn ffordd gadarnhaol yn ystod y ddau wersyll diwethaf, nid ydynt wedi cael eu heffeithio ganddo o gwbl ac rwy’n credu bod pawb yn defnyddio synnwyr cyffredin – mae’n barhad a dyna mae’r chwaraewyr eisiau hefyd.”
Datgelodd Page ei fod wedi bod mewn cysylltiad â Giggs a bod cyn-asgellwr Manchester United wedi cynnig ei gefnogaeth.
“Fi fydd yn gyfrifol am hynny”
Pan ofynnwyd a fyddai Giggs yn cymryd rhan yn y paratoadau, dywedodd Page: “Na. Cefais sgwrs wych gyda Ryan yr wythnos diwethaf.
“Yn amlwg, rydym wedi bod mewn cysylltiad. Dydych chi ddim yn mynd o fod yn ffrindiau ac yn gydweithwyr, yn gweithio mewn amgylchedd agos, i beidio â siarad wedyn.”
Ychwanegodd: “Wrth gwrs y byddaf yn siarad ag ef. Mae e eisiau’r hyn sydd orau i Gymru.
“O ran penderfyniadau a chwblhau pethau, fi fydd yn gyfrifol am hynny.
“Ond yr hyn mae Ryan wedi’i ddweud yw, os oes angen unrhyw gyngor arnaf neu os oes angen persbectif gwahanol arnaf ar bethau, yna mae bob amser yn mynd i fod yno.
“Mae e eisiau’r hyn sydd orau i Gymru hefyd.”
Mae Page wedi ennill pedair o’i chwe gêm ers cymryd yr awenau.
Kit Symons yn ymuno â’r tîm hyfforddi
Mae rheolwr Cymru, Rob Page, wedi cyhoeddi y bydd Kit Symons yn ymuno â thîm hyfforddi Cymru ar gyfer Ewro 2020.
Roedd Symons, 50, yn un o hyfforddwr Cymru o dan Chris Coleman ac enillodd 36 o gapiau dros ei wlad fel chwaraewr.
“Rydyn ni un hyfforddwr yn brin felly rwyf wedi penderfynu dod â Kit Symons yn ôl i mewn,” meddai Page.
“Mae gan Kit gyfoeth o brofiad, mae wedi bod yn rhan o lwyddiant 2016 a gawson nhw gyda Chris [Coleman] ac rwy’n credu ei fod yn gam cadarnhaol i ni, nid yn unig i’r staff a’r chwaraewyr sy’n ei adnabod ond i ni’r hyfforddwyr sydd heb weithio gydag ef.
“Mae’n rhoi deinameg wahanol i ni ac, yn bennaf oll, mae’n berson da.
“Mae dod ag ef i’r amgylchedd hwn gyda’r cyfoeth hwnnw o brofiad yn sicr yn gadarnhaol.”