Mae Rabbi Matondo, chwaraewr rhyngwladol Cymru, wedi datgelu mai ef yw’r pêl-droediwr diweddaraf i gael ei gam-drin yn hiliol ar-lein.

Daeth hyn oriau’n unig ar ôl codi’r boicot cyfryngau cymdeithasol oedd mewn grym dros y penwythnos.

Datgelodd y llanc 20 oed o Gaerdydd, sydd ar fenthyg yn Stoke o Schalke, ei fod wedi derbyn negeseuon hiliol ar Instagram.

Ysgrifennodd Matondo ar Twitter: “Da gweld y boicot wedi newid dim byd @instagram”.

Derbyniodd Morgan Whittaker, ymosodwr Abertawe, negeseuon hiliol yn ystod boicot y byd pêl-droed o’r cyfryngau cymdeithasol.

Dros y misoedd diwethaf, mae Ben Cabango, Jamal Lowe a Yan Dhanda wedi derbyn negeseuon tebyg.

Cynhaliodd Abertawe eu boicot cyfryngau cymdeithasol wythnos o hyd eu hunain ar ddechrau mis Ebrill.

 “Hollol ffiaidd”

“Mae’r clwb yn ymwybodol o’r cam-drin hiliol ffiaidd a dderbyniodd Rabbi Matondo ar y cyfryngau cymdeithasol dros nos a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu’r awdurdodau i ddod a’r bobol sydd o dan sylw i gyfiawnder,” meddai llefarydd ar ran Stoke.

Dywedodd llefarydd ar ran Facebook, sy’n berchen ar Instagram: “Mae’r gamdriniaeth a anfonwyd at Rabbi Matondo yn annerbyniol.

“Nid ydym am ganiatáu i hyn ddigwydd ar Instagram a gwnaethom ddileu’r cyfrifon a’i hanfonodd.

“Fe wnaethom gyhoeddi’n ddiweddar y byddwn yn cymryd camau llymach yn erbyn pobl sy’n torri ein rheolau mewn negeseuon ac yn ddiweddarach yr wythnos hon, rydym yn cyflwyno offer newydd i helpu i atal pobol rhag gweld negeseuon difrïol gan ddieithriaid.

“Nid oes modd datrys yr her hon dros nos ond rydym wedi ymrwymo i wneud yr hyn a allwn i gadw ein cymuned yn ddiogel rhag camdriniaeth.”

Logo Abertawe

Pedwerydd chwaraewr tîm pêl-droed Abertawe wedi’i sarhau’n hiliol

Y clwb yn ymateb i negeseuon dderbyniodd Morgan Whittaker yn ystod eu boicot o’r cyfryngau cymdeithasol, ac mae’r heddlu wedi cael gwybod

Sefydliadau pêl-droed yn dilyn esiampl Abertawe wrth gynnal boicot o’r cyfryngau cymdeithasol

Bydd yn dechrau am 3 o’r gloch brynhawn Gwener (Ebrill 30) ac yn dod i ben am 11.59 nos Lun (Mai 3)

Gallai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol wynebu dirwyon am fethu â mynd i’r afael â chamdriniaeth hiliol

“Gallem weld dirwyon o hyd at ddeg y cant o drosiant byd-eang blynyddol,” yn ôl yr Ysgrifennydd Diwylliant, Oliver Dowden