Mae disgwyl i Alun Wyn Jones gael ei enwi’n gapten ar y Llewod ar gyfer y daith i De Affrica’r haf hwn.
Ef oedd capten Warren Gatland tra’r oedd yn hyfforddwr Cymru ac ef oedd y capten wrth i Gymru ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Ac Alun Wyn Jones yw’r chwaraewr sydd â mwyaf o gapiau erioed – 157.
Mae’n debyg mai Maro Itoje fyddai ei wrthwynebwr agosaf i fod yn gapten, tra bod Stuart Hogg, Owen Farrell a Ken Owens hefyd yn opsiynau.
Mae disgwyl i gryn dipyn o chwaraewyr Cymru gael eu henwi yn y garfan yn dilyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad llwyddiannus.
Ond ni fydd George North yn teithio ar ôl iddo ddioddef anaf i’w goes wrth i’r Gweilch guro’r Gleision o 36-14 yng Nghwpan yr Enfys y PRO14.
Bydd Warren Gatland, oedd yn hyfforddwr ar Gymru tan 2019, yn enwi ei garfan amser cinio ddydd Iau (Mai 5).