Pan adawodd Marnus Labuschagne dîm criced Morgannwg yn 2019 i ymuno â Chyfres y Lludw, roedd yr Awstraliad yn chwaraewr ifanc, cyffrous gyda chryn botensial.

Bron i ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae yn ôl yng Nghymru ac yn un o gricedwyr gorau’r byd.

Bu ei daith tuag at frig y byd criced yn un anarferol.

Wedi’i eni yn Ne Affrica, symudodd y teulu i Awstralia pan oedd Marnus yn ddeg oed ac fe ddaeth e drwy rengoedd tîm criced Queensland.