Maen nhw’n dweud bod rhywun, yn rhywle yn y byd, yn prynu un o nofelau Jack Reacher gan Lee Child bob naw eiliad.

Jack Reacher yw arwr y gyfres o nofelau ditectif lle mae’n crwydro’r Unol Daleithiau yn ymchwilio i sefyllfaoedd amheus a pheryglus. Mae 26 o’r llyfrau wedi eu cyhoeddi ac maen nhw wedi gwerthu dros 60 miliwn o gopïau.