Mae teimlo’n unig yn “argyfwng” yng ngwledydd Prydain erbyn hyn ac wedi gwaethygu yn ystod y pandemig.

A hithau’n fam i chwech o ferched rhwng 20 a 34 oed, yn nofelydd llyfrau trosedd, ac yn disgrifio ei hun fel person “byrlymus a chymdeithasol”, mae Myfanwy Alexander yn cyfaddef mai hi yw’r person olaf fyddech chi’n disgwyl i ddweud ei bod yn teimlo’n unig.