Ailgymysgu, ail-ddychmygu, ail-ddyheu, ail-greu – dyma sydd ganddoch chi ar UV, albwm newydd Rogue Jones.

Ar y casgliad newydd mae ganddo chi holl ganeuon yr albwm VU a gafodd ei rhyddhau gan y band bum mlynedd yn ôl, wedi eu hail-bobi gan wahanol gerddorion.

Mae’r caneuon yma ar eu newydd wedd wedi eu cyflymu, eu harafu, a’u torri i fyny yn ddarnau mân cyn cael eu rhoi at ei gilydd eto, gan swnio yn hollol wahanol i’r fersiynau gwreiddiol.