Gyda chwymp yn nifer y cleifion covid mewn unedau gofal dwys yng Nghymru, mae un arbenigwr yn y maes yn rhybuddio bod “dychwelyd i normalrwydd yn mynd i fod yn llawer anoddach na mae o’n edrych ar bapur…”

“Un o’r pethau pwysicaf y gall pawb ohonom ei wneud ar hyn o bryd yw mynd i gael ein brechu – pawb, o bob oed!” meddai Dr Chris Thorpe sy’n Feddyg Ymgynghorol mewn Anaestheteg a Thriniaeth Gofal Dwys yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor.