Dyma hi o’r diwedd – wythnos yr etholiad!

Wrth i’r mag fynd i’r Wasg roedd sawl diwrnod i fynd tan y diwrnod mawr, ac roedd yna lawer o ansicrwydd o hyd.

Felly, yn hytrach na malu awyr am yr hyn na wyddom, beth am i Fwrlwm ganolbwyntio ar rywbeth sy’n bownd o oroesi’r bleidlais fawr?

Waeth beth fydd yn digwydd ddydd Iau, mae yna un sicrwydd digon diddorol – heb os mi fydd y drafodaeth am annibyniaeth yn dal i dyfu oddi fewn i’r Blaid Lafur.

Lansiwyd ‘Llafur tros Gymru Annibynnol’ rai blynyddoedd yn ôl, ac wythnos ddiwetha’ wnaeth Llywydd y grŵp, Bob Lloyd, rannu ei farn am faniffesto Llafur ar bodlediad Hiraeth.

Mae’r ddogfen yn pwysleisio bod Llafur Cymru yn deisyfu trefn ffederal i’r Deyrnas Unedig… a dyw hynny ddim wedi plesio Mr Lloyd.

“Roedd hynny’n syndod i ni,” meddai ar y podlediad. “Bod [y maniffesto] mor amlwg o blaid ffederaliaeth. A hynny pan dyw’r drafodaeth braidd wedi cychwyn oddi fewn i’r blaid.”

Wnaeth e’ hefyd rannu ei rwystredigaeth ynghylch cynllun y blaid i sefydlu comisiwn annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru.

“Cyn i’r comisiwn ddechrau ar y gwaith, mae Llafur Cymru wedi datgan eu bod yn gobeithio mai ffederaliaeth fydd y casgliad,” meddai yn anniddig.

Er gwaetha’ ei rwystredigaeth, roedd ganddo ambell sylw cynhesach.

Roedd yn canmol tôn y maniffesto mewn rhai mannau, yn enwedig y brawddegau sy’n lladd ar Lywodraeth San Steffan –  “bangin’ lines” yn ôl Bob.

“Mae arolygon barn y blynyddoedd diwethaf wedi dangos bod mwyafrif o gefnogwyr Llafur Cymru yn cefnogi annibyniaeth,” meddai.

“Ac mae rhethreg y maniffesto yn awgrymu bod y blaid yn deall hynny. Mae’n ddigon da am y tro!”

Troeon trwstan Nathan Gill

Nathan Gill

Bydd y dadleuon teledu yn hen hanes erbyn i chi weld y Bwrlwm hwn, ond alla’ i ddim eich hamddifadu o’r stori hon…

Cafodd BBC Wales Leaders’ Debate ei chynnal ddiwedd fis Ebrill, ac yn wahanol i ddadl deledu ITV, mi rannwyd y rhaglen hon yn ddwy.

Yn ystod yr awr gyntaf mi aeth arweinwyr Cymreig Llafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Diddymu’r Cynulliad benben â’i gilydd.

Ac yn dilyn hynny mi gynhaliwyd dadl rhwng ffigyrau o UKIP, y Blaid Werdd a Reform UK.

Bydd gwylwyr craff wedi sylweddoli mai Nathan Gill, arweinydd Reform UK yng Nghymru a chyn-Aelod UKIP o’r Senedd, oedd i fod i gynrychioli ei blaid yntau.

Ond ar y noson cafodd y blaid ei chynrychioli gan Jamie Jenkins – ymgeisydd Reform UK a gŵr sydd yn adnabyddus yn bennaf am rannu ystadegau covid ar Twitter.

Jamie Jenkins

Ar bennod ddiweddaraf Walescast, podlediad BBC am wleidyddiaeth Cymru, wnaeth Nick Servini, cyflwynydd yr ail ddadl, esbonio beth aeth o’i le.

“Chware teg i Jamie Jenkins,” meddai. “Roedd hi’n dri o’r gloch y prynhawn, neu’n bedwar y prynhawn, ar y  boi’n cael gwybod bod e’n dod ar y sioe!

“Wnaeth car Nathan Gill dorri lawr. Ac yn y pendraw bu’n rhaid i ni ffonio Jamie Jenkins a gofyn iddo fe wneud y sioe.

“Roedd e’ i fod i gymryd rhan mewn hystings rhithiol gyda phobol Pontypridd. Ond bu’n rhaid iddo gefnu ar hynny, gwisgo’i siwt, a chymryd rhan yn fyw ar BBC One Wales.”

Dechreuodd y rhaglen am hanner awr wedi wyth y nos. Dyn a ŵyr pryd wnaeth Nathan Gill adael yr A55!