Os nad oedd hi’n amlwg cynt, mae’n berffaith amlwg bellach fod yna frwydr yn wynebu Senedd Cymru, beth bynnag fydd canlyniadau’r bleidlais heddiw.

Mi all wneud gwahaniaeth faint o bleidleisiau a gaiff rhai o’r pleidiau mân asgell dde – yn arbennig y Blaid Ddiddymu – ond mae eu presenoldeb nhw’n ddigon ac am roi cyfle i eraill yn y dyfodol.