Mae enw Folajimi Olubunmi-Adewole wedi dod yn gyfarwydd i rai yn ddiweddar.
Dyn ifanc, 20 oed, o Lundain oedd e. Ac fe fuodd farw wrth geisio achub menyw ddieithr iddo rhag boddi yn afon Tafwys yn hwyr y nos, ddiwedd Ebrill.
Cafodd y fenyw ei hachub, ond boddi wnaeth Folajimi, neu Jimi fel roedd ei ffrindiau’n ei adnabod.