Gallai cwmnïau cyfryngau cymdeithasol wynebu dirwyon gwerth miliynau o bunnoedd am fethu â mynd i’r afael â chamdriniaeth hiliol ar eu gwefannau, yn ôl yr Ysgrifennydd Diwylliant, Oliver Dowden.

Bydd y byd chwaraeon yn gwrthod defnyddio cyfryngau cymdeithasol am bedwar diwrnod gan ddechrau brynhawn Gwener (Ebrill 30), gyda llawer o chwaraewyr, clybiau a darlledwyr yn ymuno a’r ymgyrch i ledaenu’r neges nad yw cam-drin ar-lein yn dderbyniol. Mae’n dilyn nifer o sylwadau sarhaus tuag at chwaraewyr ar-lein.

Mae disgwyl i fil ar Ddiogelwch Ar-lein fynd gerbron y Senedd eleni gan nodi dyletswyddau gofal y mae’n rhaid i gwmnïau technoleg gadw atynt, gyda’r cwmnïau sy’n torri’r amodau yn wynebu “sancsiynau difrifol”.

Wrth ysgrifennu yn y Sun, awgrymodd Oliver Dowden y bydd cam-drin hiliol ymhlith y materion fydd yn rhaid i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol fynd i’r afael â nhw.

“Sancsiynau difrifol”

Ysgrifennodd: “O dan y ddeddfwriaeth, os nad yw cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn cadw eu haddewidion i ddefnyddwyr drwy, er enghraifft, fethu â chael gwared ar enghreifftiau o gam-drin hiliol, byddant yn wynebu sancsiynau difrifol.

“Gallem weld dirwyon o hyd at 10% o drosiant byd-eang blynyddol. I gwmni fel Facebook neu YouTube, gallai hynny fod yn biliynau.”

Ychwanegodd y byddai’r bygythiad o orfodaeth yn arwain at gwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn gweithredu.

Yn y cyfamser, ysgrifennodd is-lywydd Facebook ar gyfer gogledd Ewrop, Steve Hatch, yn y Daily Telegraph fod gan ei gwmni reolau clir yn erbyn camdriniaeth, ond nad yw hynny’n golygu bod dim achosion.

“Allwn ni ddim atal pobl rhag bod yn rhagfarnllyd, neu rhag teipio camdriniaeth i mewn i’w ffôn, ond gallwn gymryd camau i gryfhau ein rheolau, a gwella ein mesurau i’w canfod a’n mesurau gorfodaeth.”

Dywedodd fod yn rhaid i’r gwaith o sicrhau newid ddigwydd oddi ar y we, gan ysgrifennu: “Ni fydd yr un peth yn datrys yr her hon dros nos ond rydym wedi ymrwymo i wneud yr hyn a allwn i gadw ein cymuned yn ddiogel rhag camdriniaeth.

“Byddwn yn parhau â’n gwaith gyda’r diwydiant pêl-droed, y Llywodraeth ac eraill i sicrhau newid drwy weithredu ac addysg.”