Roedd rhif ffôn symudol Boris Johnson ar gael  ar y rhyngrwyd ers 15 mlynedd, yn ôl adroddiadau.

Cafodd rhif cyswllt ar gyfer Boris Johnson ei gynnwys ar waelod datganiad i’r wasg pan oedd yn dal i fod yn llefarydd addysg uwch yn 2006 – dogfen a oedd ar gael ar-lein o hyd yn 2021.

Awgrymodd adroddiadau yn gynharach y mis hwn fod uwch swyddogion wedi galw ar y Prif Weinidog i newid ei rif oherwydd pryderon ynghylch faint o bobol a gysylltodd ag ef yn uniongyrchol.

Gwrthododd Downing Street wneud sylwadau am yr adroddiadau – a ddatgelwyd gyntaf ar wefan clecs Popbitch – fod rhif ffôn Boris Johnson ar gael ar-lein i unrhyw un oedd yn chwilio amdano.

Roedd y datganiad i’r wasg, a oedd yn ymwneud â’i waith fel gweinidog addysg uwch cysgodol, yn gwahodd newyddiadurwyr i gysylltu â Boris Johnson yn uniongyrchol naill ai ar rif swyddfa Tŷ’r Cyffredin neu ei ffôn symudol.

Cafodd ymdrechion i ffonio’r rhif nos Iau (Ebrill 29) eu hateb gan neges awtomatig yn dweud bod y ffôn wedi’i “ddiffodd” a gwahoddiad i “roi cynnig arni’n ddiweddarach neu anfon neges destun”.

Mae defnydd y Prif Weinidog o’i ffôn symudol wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar ar ôl i sgwrs gyda’r dyn busnes Syr James Dyson gael eu datgelu.

Yn gynharach y mis hwn, adroddodd The Daily Telegraph fod Simon Case, pennaeth y gwasanaeth sifil, wedi awgrymu i’r Prif Weinidog ei fod yn newid ei rif oherwydd bod ei un presennol yn rhy adnabyddus.