Mae nifer o ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Aberaeron yn hunan-ynysu am 10 diwrnod yn sgil achosion Covid-19.

Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion bod yn rhaid i bawb fuodd mewn cysylltiad â’r achos aros gartref am 10 diwrnod i leihau’r risg o ledaenu’r feirws i deulu, ffrindiau a’r gymuned ehangach.

Bydd y disgyblion sy’n hunan-ynysu yn cael eu haddysgu o bell am y cyfnod yma ac mae’r ysgol wedi cysylltu â phob un rhiant i egluro’r sefyllfa.

Mae’r cyngor yn annog pob rhiant i drefnu prawf ar gyfer eu plant os ydyn nhw’n datblygu unrhyw un o’r symptomau.

“Dylai rhieni fod yn ymwybodol o symptomau eraill ar y dechrau, fel cur pen, blinder a phoenau cyffredinol sy’n gysylltiedig â’r ffliw fel arfer,” meddai’r cyngor mewn datganiad.

“Er bod lefel yr achosion yn isel, nid yw coronafeirws wedi mynd i ffwrdd.

“Dilynwch y canllawiau.”