Bydd dedfryd pensiynwr a gafodd ei garcharu am dagu ei wraig yn ystod y cyfnod clo cyntaf yn cael ei hadolygu.

Maw sawl gwleidydd amlwg wedi pwyso am ymestyn y ddedfryd wreiddiol, sef pum mlynedd.

Dywedodd y pensiynwr Anthony Williams wrth yr heddlu ei fod “wedi tagu’r bywyd allan” o’i wraig Ruth, 67, yn eu cartref yng Nghwmbrân ar fore Mawrth 28 y llynedd, wedi iddo “snapio” yn dilyn cyfnod o deimlo’n ddigalon ac yn bryderus.

Cafodd Anthony Williams, sy’n 70 oed, ei garcharu am bum mlynedd ym mis Chwefror wedi iddo bledio’n euog i gyhuddiad o ddynladdiad trwy gyfrifoldeb lleihaedig.

Mae ei achos wedi’i gyfeirio at y Llys Apêl, ac yn ystod yr achos gwreiddiol yn Llys y Goron Abertawe, dywedodd y barnwr ei fod yn “achos trasig ar sawl lefel”.

Dywedodd hefyd fod stad feddyliol Anthony Williams “wedi’i heffeithio’n sylweddol ar yr amser”.

Roedd Anthony Williams yn dioddef o iselder difrifol, gorbryder, a diffyg cwsg, ac roedd ganddo “obsesiwn” â Covid-19.

Bydd tri uwch farnwr yn adolygu’r ddedfryd wreiddiol mewn gwrandawiad yn Llundain heddiw (Ebrill 30).

Cefndir

Ni roddodd Anthony Williams dystiolaeth yn yr achos cyntaf, ond dywedodd wrth yr heddlu ei fod wedi “snapio” tra yn y gwely, a dechrau tagu ei wraig ar ôl iddi geisio ei bwyllo.

Dywedodd iddo ddilyn ei wraig i lawr y grisiau, a’i dal gerfydd ei gwddf unwaith eto wrth iddi geisio agor y drws i ddianc.

Cafwyd hyd i’w chorff yng nghyntedd eu cartref gydag allweddi yn ei llaw. Ac er iddi gael ei chludo i’r ysbyty, roedd hi wedi marw ar ôl cael anafiadau difrifol i’w llygaid, ei hwyneb a’i cheg, ac roedd hi wedi torri ei gwddf mewn pum lle.

Cafodd Anthony Williams ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac fe ymddiheurodd wrth yr heddlu, gan ddweud iddo golli ei dymer, ac yn yr achos llys fe’i cafodd yn ddieuog o lofruddiaeth.

Dywedodd wrth yr heddlu fod y cyfnod clo yn “anodd iawn, iawn”, ei fod yn teimlo’n “isel”, a’i fod yn poeni y bydden nhw’n rhedeg allan o arian gan fod y banciau ar gau.

Roedd seicolegydd o’r farn bod ei orbryder “wedi dwysau” oherwydd y cyfnod clo, a dywedodd wrth yr achos llys gwreiddiol fod ei allu i reoli ei ymddygiad wedi’i amharu.

Galwadau i adolygu’r achos

Mae nifer o Aelodau Seneddol Llafur wedi galw am adolygu dedfryd Anthony Williams, gyda Harriet Harman, Jess Phillips, ac Alex Davies-Jones yn eu plith.

Dywedodd Harriet Harman, a fu yn Weinidog tros Ferched yn Llywodraeth Lafur Tony Blair, fod y ddedfryd o bum mlynedd yn “rhy drugarog”.

“Mae yna fwlch yn y gyfraith, nam sylfaenol, sy’n rhoi esgusion i ddyn sy’n lladd ei wraig, na fyddai byth yn gallu eu defnyddio petai’n lladd ei gymydog,” meddai Harriet Harman.

Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi dweud na fyddai’n lansio adolygiad dynladdiad domestig, ac na fyddai sefydliadau partner yn gwneud hynny chwaith, oherwydd “ymgysylltiad cyfyngedig iawn y cwpl â gwasanaethau, ac absenoldeb unrhyw hanes o gam-drin domestig”.

Fis diwethaf, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, orchymyn adolygiad dynladdiad domestig i farwolaeth Ruth Williams.

Bydd yr Arglwydd Ustus Bean, a dau farnwr arall, yn gwrando ar yr apêl.

Pryderon aelodau seneddol am ddedfryd dyn am ladd ei wraig

Maen nhw’n galw am adolygu’r ddedfryd o bum mlynedd o garchar gafodd ei rhoi i Anthony Williams, 70, o Gwmbrân
Llun pen ac ysgwydd o'r gwleidydd, ar gefndir gwyn

Priti Patel yn gorchymyn adolygiad i “achos gwarthus” Anthony Williams

Cafodd Athony Williams ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar ar ôl cyfaddef i’r heddlu ei fod “wedi tagu” ei wraig Ruth