Mae 68 o achosion o Covid-19 bellach wedi’u cysylltu â chlwstwr mewn ffatri gacennau yn y Bala.
Er hynny, does “dim panics yn y stryd” meddai cynghorydd lleol sy’n dweud fod ganddo “ffydd yn y system” brofi, olrhain a diogelu.
Yn ôl Dilwyn Morgan, sy’n Gynghorydd Plaid Cymru yn y Bala ac yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C, mae’r systemau sydd mewn lle i weld yn gweithio, ac nid yw yn gweld rheswm dros gau’r ffatri ar hyn o bryd.
Daeth i’r amlwg wythnos diwethaf fod 42 o achosion Covid-19 yn gysylltiedig â ffatri Cake Crew, a bellach mae yna uned brofi wedi’i lleoli ger y ffatri sy’n cyflogi dros 300 o weithwyr.
“Ffydd yn y system”
“Mae yna bryder yn lleol yn amlwg, ond dw i’n meddwl fod y systemau a’r profi, olrhain, a diogelu i weld yn gweithio,” meddai’r Cynghorydd Dilwyn Morgan wrth golwg360.
“Mae yna brofi eang yn mynd ymlaen yn y ffatri, mae pob gweithiwr yn cael ei brofi a dw i’n meddwl mai dyna sut mae’r ffigurau wedi mynd i fyny, a dweud y gwir.
“Mae yna lot mwy o brofi yn y dyddiau diwethaf, felly mae spike wedi bod ddoe. Dyna’r rheswm…
“Mae yna lot o waith yn mynd ymlaen yn lleol i dawelu meddyliau pobol, does yna ddim panics yma – ga i ddweud fel yna.
“Dw i’n meddwl fod hynny’n dangos fod y systemau sydd yn eu lle gan y cynghorau, a gan y Bwrdd Iechyd, i weld yn gweithio ar hyn o bryd.
“Ac mae’r brechu wedi mynd yn arbennig o dda yn y dref, felly mae pawb i weld yn eithaf bodlon eu byd.
“Mae gen i ffydd yn y system. Os oes angen cau’r ffatri yna fe wneith y system ‘olrhain o diogelu’ fynnu ei bod hi’n cau,” ychwanegodd.
“Dw i ddim yn gweld pa bwrpas ar hyn o bryd, gawn ni weld be ddatblygith.”
Achos yn yr ysgol
Bu achos o Covid-19 yn ysgol uwchradd y dref yr wythnos ddiwethaf, a bu gweithredu cyflym ar hynny.
“Roedd yna un ferch yn yr ysgol, ond unwaith eto mae’r system profi ac olrhain a’r ysgol wedi cydweithio yn ofnadwy o gyflym,” meddai Dilwyn Morgan.
“Fuodd yna athro ac un swigen yn ynysu am wythnos, ond maen nhw’n ôl yn yr ysgol erbyn hyn.
“Dw i’n meddwl mai fy neges i ydi bod gennym ni ffydd yn yr hyn sydd mewn lle, dyna’r neges gyffredinol.
“A does yna ddim panics yn y stryd, mae hi fel diwrnod o wanwyn eithaf arferol yma.”
“Dod â’r haint dan reolaeth”
Mae cwmni Cake Crew, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, a chynghorau Gwynedd, Powys, Conwy, a Swydd Amwythig wedi dweud eu bod nhw’n cydweithio er mwyn rheoli lledaeniad y feirws.
Yn ôl datganiad, maen nhw hefyd yn gweithio â chynghorau Dinbych a Wrecsam, “lle mae cyfran o’r achosion sy’n ymwneud gyda’r digwydd yn byw”.
“Bellach mae uned brofi wedi ei lleoli ger safle’r ffatri ac mae’r gweithwyr yn cael eu profi yno. Yn ogystal, mae’r gweithwyr yn cynnal profion rheolaidd eu hunain gartref cyn mynychu’r gweithle,” meddai Cyngor Gwynedd.
“Gobeithir y bydd hyn, ynghyd â’r trefniadau gwaith y mae’r cwmni wedi eu mabwysiadu yn dod a’r haint dan reolaeth.”