Un o Gymry Llundain yw’r fenyw gyntaf i gael ei phenodi yn Llysgennad Prydain yn Ffrainc.

Bydd Menna Rawlings yn cychwyn ei gwaith newydd yn yr haf, gan gymryd lle Ed Llewellyn a fu yn gweithio i David Cameron pan oedd yntau yn Brif Weinidog.

Yn fam i dri, fe gafodd Menna Rwalings ei geni yn Hillingdon, Llundain, ac ymunodd â’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad Prydain yn 1989 ar ôl cwblhau BSc mewn Cysylltiadau Rhyngwladol yn Ysgol Economeg Llundain.

Rhwng 2002 a 2004, bu Menna Rawlings yn Ysgrifennydd Preifat i’r Is-Ysgrifennydd Gwladol Parhaol dros Faterion Tramor, ac yna tan 2008, roedd hi’n Ddirprwy Uwch Gomisiynydd Prydain yn Ghana.

Ar ôl tair blynedd yn Washington yn Is-Gennad Cyffredinol, dychwelodd i Lundain yn 2011 i fod yn Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol y Swyddfa Dramor, gan weithio yn y rôl tan 2014.

Aeth ymlaen i gael ei phenodi’n Uwch Gomisiynydd Prydain yn Awstralia ac yn ddiweddarach roed hi’n gyfrifol am ddatblygu’r cysyniad o “Brydain fyd-eang”.

Olynu 43 o ddynion

Dynion fu’r 43 o lysgenhadon Prydeinig ym Mharis hyd at benodiad Menna Rawlings.

Bellach, merched yw llysgenhadon Prydain ym Merlin, Tokyo, Washington, Canberra, Beijing, Paris, Rhufain, Moscow a’r Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd.

Hyd at 1946, roedd menywod wedi eu gwahardd rhag gwneud gwaith diplomyddol ar ran Prydain gan y Swyddfa Dramor – a hyd at 1973 roedd yn rhaid iddyn nhw ymddiswyddo o’r gwaith os oedden nhw yn priodi.

Ni chafodd y llysgenhadon benywaidd priod cyntaf eu penodi tan 1987, 12 mlynedd ar ôl i Margaret Thatcher ddod yn arweinydd y blaid Geidwadol.

Ymhlith yr uwch lysgenhadon benywaidd presennol eraill mae’r Fonesig Karen Pierce (Washington), Caroline Wilson (Beijing), y Fonesig Barbara Woodward (cennad y Deyrnas Unedig i’r Cenhedloedd Unedig), Jill Gallard (Berlin), Deborah Bronnert (Moscow), Jill Morris (Rhufain) a Julia Longbottom (Tokyo).

Dywed y Swyddfa Dramor fod nifer y penaethiaid cenhadaeth benywaidd wedi treblu o 22 i fwy na 60 yn ystod y ddegawd ddiwethaf, ond dim ond yn ystod y pum mlynedd diwethaf y mae’r swyddi uchaf wedi’u rhoi i ferched.