Mae ymchwil newydd yn awgrymu mai’r Cymry sydd fwyaf tebygol o brynu cynnyrch sy’n eco-gyfeillgar, o holl bobol Prydain.

Yn ôl canfyddiadau ymchwil Quilter, dywedodd 80% o Gymry eu bod nhw’n trio dewis nwyddau sy’n ‘eco-gyfeillgar’, neu gydag ôl-troed carbon is, wrth siopa.

Dywedodd 79% o bobol yr Alban eu bod nhw’n ceisio siopa yn y ffordd yma, ac roedd y ganran yn amrywio rhwng 78% a 74% ar gyfer holl ranbarthau Lloegr, a Gogledd Iwerddon.

Er hynny, pobol yn Llundain sydd fwyaf tebygol o wario yn amgylcheddol gyfrifol.

Daeth y Cymry yn drydydd ar y rhestr honno, gyda 28% o fuddsoddwyr yn dweud fod ganddyn nhw fuddsoddiadau sy’n eco-gyfeillgar.

“Gallwn wneud mwy”

“Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi gweld ffrwydrad mewn diddordeb ynghylch sut rydyn ni’n effeithio’r byd a chymdeithas,” meddai Heather Owen, cynllunydd ariannol gyda Quilter.

“Mae goleuni wedi ei daflu ar bryderon amgylcheddol, arferion gweithio, amrywiaeth o fewn cwmnïau, a nifer o fesurau eraill sydd llawn mor bwysig, ac mae pobol eisiau gwneud gwahaniaeth.

“Mae’n galonogol gweld pobol ar hyd a lled y wlad yn dechrau meddwl am sut y gallai eu harbedion a’u buddsoddiadau wneud gwahaniaeth.

“Ond i nifer o bobol, dydyn nhw ddim wedi ystyried yn llawn y gwahaniaeth y mae eu harian yn ei wneud, ac maen nhw’n ansicr a ydyn nhw’n dal buddsoddiadau cyfrifol,” esboniodd.

“Ac yn amlwg fel cenedl gallwn wneud mwy. Mae’n ymddangos ein bod ni’n barod i siopa o gwmpas am nwyddau sy’n cael llai o effaith ar yr amgylchedd, ac yn ystyried ôl troed carbon ein pryniannau.

“Rydyn ni wedi dod yn bell mewn amser cymharol fyr. Mae gennym ni dipyn i fynd eto, ond drwy gydol y pandemig mae’r genedl wedi dangos fod materion cynaliadwyedd o bwys iddyn nhw, ac rydyn ni’n gweld fod mwy a mwy o bobol yn buddsoddi’n gyfrifol yn dod yn beth arferol.”