Mae un o gynghorau’r gogledd yn ymbilio ar bobol i fynd â sbwriel adref os yw biniau llefydd prydferth yn llawn.

Daw’r alwad ar drothwy Gŵyl y Banc, pan mae disgwyl i draethau, parciau a mannau prydferth fod yn brysur.

Mae Cyngor Sir Conwy wedi ymuno â Cadwch Gymru’n Daclus ac awdurdodau lleol eraill er mwyn annog pobol i glirio ar eu holau dros y penwythnos hir.

Ledled Cymru mae mwy o sbwriel i’w weld wrth i gyfyngiadau covid lacio ac wrth i’r tywydd wella.

Wythnos diwethaf, dywedodd Cyngor Sir Ceredigion nad oes “dim esgus” dros adael sbwriel ar draws y llwybr, y meinciau a’r traeth yn Aberaeron.

Ac ar ddiwedd mis Mawrth, gadawodd bobol fôr o sbwriel ym Mae Caerdydd ac ar risiau Senedd Cymru.

“Mae gan bawb ran i’w chwarae”

“Mae gan bawb rôl i’w chwarae i gadw Conwy’n brydferth,” meddai llefarydd ar ran y cyngor.

“Pan rydym yma ac acw, cofiwch ganfod bin sbwriel neu fynd â’ch sbwriel adref gyda chi.

“Os yw bin sbwriel yn llawn ac yn aros i’w wagio, defnyddiwch fin arall gerllaw os gwelwch yn dda.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus, Lesley Jones: “Rydyn ni i gyd wedi gweld eisiau ein hoff lefydd yn ystod y cyfnod clo.

“Wrth i ni ddechrau mynd allan unwaith eto, mae’n hanfodol bod ein parciau, ein llefydd gwyrdd a’n traethau yn cael eu cadw’n lân ac yn ddiogel i bawb eu mwynhau.

“Mae gan bawb ran i’w chwarae. Mae’n annerbyniol disgwyl i rywun arall godi eich sbwriel chi.

“Pan fyddwch chi allan, cofiwch greu straeon, nid sbwriel – os yw’r biniau’n llawn, ewch â’ch sbwriel adref.”