Bydd nifer o ganolfannau hamdden Gwynedd yn ailagor yr wythnos nesaf, yn dilyn y cyhoeddiadau am lacio cyfyngiadau Covid-19.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd campfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd yn cael ailagor yn gynharach na’r disgwyl ar Fai 3.

Bydd canolfannau’n Byw’n Iach, Cyngor Gwynedd ym Mhlas Ffrancon (Bethesda), Bangor, Arfon, Plas Silyn (Penygroes), Dwyfor, Glaslyn, Glan Wnion, Pafiliwn, Penllyn, a Bro Dysynni yn ailagor ddydd Mawrth (Mai 4).

Trefniadau canolfannau hamdden Gwynedd

Bydd modd i gwsmeriaid ymweld â’r campfeydd, cymryd rhan mewn dosbarthiadau ffitrwydd a sesiynau chwaraeon, a defnyddio’r pyllau nofio.

Wrth ailagor, bydd Byw’n Iach yn cynnig sesiynau Nofio Teulu, lle y gall pob teulu ddefnyddio rhan o’r pwll eu hunain am sesiwn awr.

Yn ogystal, bydd sesiynau Nofio am Ddim ar gyfer pobol dros 60 oed yn ailgychwyn.

Bydd gweithgareddau grŵp, megis dosbarthiadau ffitrwydd, a gwersi nofio a jimnasteg i blant, yn ailgychwyn hefyd.

Ynghyd â hynny, bydd modd i glybiau ddychwelyd i ymarfer dan do a thu allan, gan gadw at uchafswm o 15 o bobol tu mewn, a 30 tu allan.

Bydd Byw’n Iach hefyd yn cynnal sesiynau newydd wythnosol “Actif am Oes” ar bob un safle ar gyfer pobol sy’n teimlo eu bod nhw angen ychydig o gefnogaeth ychwanegol o fis Mehefin ymlaen.

Ni fydd pyllau nofio Dwyfor na Bro Ffestiniog yn ailagor ar hyn o bryd, gan fod gwaith cynnal a chadw’n parhau ar y ddau safle.

“Balch iawn o allu ailagor”

“Mae hi wedi bod yn gyfnod hir ers i’r cyfleusterau fod ar gael oherwydd y rheoliadau i reoli Covid-19 ond rydym yn falch iawn o fod yn gallu ailagor Canolfannau Byw’n Iach, ac i groesawu pobl yn ôl,” meddai Amanda Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Byw’n Iach, Cyngor Gwynedd.

“Rydym yn ymwybodol y bydd sawl un yn teimlo ychydig yn bryderus am ddychwelyd. Ond mae ymchwil yn ystod yr Hydref a’r Gaeaf wedi profi fod canolfannau yn llefydd diogel gyda’r trefniadau Covid Diogel ychwanegol sydd yn cael eu gweithredu.

“Mae’r systemau yn cynnwys trefn pellhau gymdeithasol clir iawn, trefniadau glanhau ychwanegol a chyson, lleihad sylweddol yn y nifer o bobl all fod yn yr adeilad ar unwaith, hyfforddiant Covid i bob aelod o staff a gwaith cynnal a chadw proffesiynau ac addasiadau i’n systemau awyru sydd yn golygu fod llif o awyr iach i mewn i bob rhan o’r adeilad i safonau’r diwydiant.

“Mae hi hefyd yn bwysig cofio fod ymchwil sylweddol wedi cadarnhau fod cyswllt clir iawn rhwng bod yn actif ac yn ffit a gallu unigolyn i wrthsefyll Covid-19 a sawl afiechyd arall. Trwy gadw’n heini mi all pob un ohonom ni warchod ein hiechyd a lleihau’r galw ar y Gwasanaeth Iechyd.”

“Mae lot o bobl yn dibynnu ar fynd i’r gym… ’da ni gyd angen hynny fwy nag erioed”

Blaenoriaethu ailagor campfeydd a chanolfannau hamdden wedi’r cyfnod clo?