Mae “twf aruthrol” wedi bod i gyfryngau cymdeithasol S4C dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda chynnydd o 49.7% yn y sesiynau gwylio.
Rhwng mis Ebrill 2020 a Mawrth 2021, fe gafodd clipiau’r sianel eu gwylio dros 10 miliwn o weithiau ar brif gyfrifon S4C ar Facebook, Twitter, Instagram, ac YouTube.
Yn ogystal, bu dros hanner biliwn o sesiynau gwylio ar draws holl GIF’s y sianel yn ystod y bum mlynedd diwethaf.
Ar gyfartaledd, mae GIF’s S4C yn denu tua 700,000 o sesiynau gwylio bob diwrnod, gyda’r rhai mwyaf poblogaidd yn cynnwys un o Huw Chiswell yn y ffilm Ibiza Ibiza, a chymeriad Plwmsan o’r rhaglen blant Syr Wynff a Plwmsan.
Ymysg y cynnwys mwyaf poblogaidd ar gyfrifon y sianel mae clipiau o raglennu Iaith ar Daith, Y Llinell Las, Cân i Gymru, Jonathan, a nifer o raglenni o’r archif a bocs sets.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae S4C wedi defnyddio platfformau cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu a gwylwyr, gan gynnal sesiynau byw ar Facebook gyda’r Prif Weithredwr, Cadeirydd Bwrdd y sianel, a’r Tîm Comisiynu.
Mae’r sesiynau yn gyfle i ddiweddaru gwylwyr, ac yn rhoi cyfle i’r gynulleidfa holi cwestiynau am raglenni ac arlwy’r sianel, yn ôl S4C.
“Taro deuddeg”
“Dw i’n falch iawn fod ein cynnwys ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol S4C yn taro deuddeg gyda’n dilynwyr.” meddai Owen Derbyshire, Cyfarwyddwr Marchnata a Digidol S4C.
“Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn arf pwysig i ni allu hyrwyddo ac ymgysylltu gyda’n gwylwyr yn ogystal â denu cynulleidfaoedd newydd.
“Fel rhan o’n strategaeth ddigidol rydym yn anelu i gomisiynu mwy o ddeunydd ecsgliwsif ar gyfer ein platfformau digidol fydd yn rhoi cyfle i ni ddenu gwylwyr newydd i fwynhau ein cynnwys.”