Mae’r Llys Apêl wedi gwrthod cynyddu dedfryd Anthony Williams, pensiynwr a gafodd ei garcharu am dagu ei wraig i farwolaeth yn ystod y cyfnod clo cyntaf.

Fe wnaeth Anthony Williams ddweud wrth yr heddlu ei fod wedi “tagu’r bywyd allan” o’i wraig, Ruth, 67, y llynedd yn eu cartref yng Nghwmbrân, ar ôl iddo “snapio” yn dilyn cyfnod o iselder a gorbryder.

Cafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd yn y carchar fis Chwefror, ar ôl cael ei ganfod yn ddieuog o lofruddiaeth.

Fe wnaeth Anthony Williams bledio’n euog i gyhuddiad o ddynladdiad trwy gyfrifoldeb lleihaedig, ond cafodd ei achos ei basio ymlaen i’r Llys Apêl ar y sail fod y ddedfryd yn “rhy drugarog”.

Y dioddefaint “heb ei adlewyrchu yn y ddedfryd”

Fe wnaeth Anthony Williams ymddangos yn y llys drwy gyswllt fideo o Garchar Abertawe heddiw (Ebrill 30), a dadleuodd Tom Little, bargyfreithiwr ar ran Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol, fod dedfryd y barnwr wedi methu ag ystyried ffactorau gwaethygol yr achos.

Dywedodd y bargyfreithiwr ei fod yn achos o “ladd domestig” rhwng gŵr a gwraig, sy’n golygu y dylid bod wedi ystyried y canllawiau dedfrydu yn ymwneud â thrais domestig.

“Beth sy’n nodweddiadol iawn ynghylch yr achos yma yw mai un digwyddiad ar wahân oedd e,” meddai’r Arglwydd Ustus Bean wrth y bargyfreithiwr.

“Rydych chi’n dweud y dylid dedfrydu’n llymach ar gyfer un digwyddiad treisgar yn y cartref, am y rheswm hynnw.”

Ar ôl cytuno, dywedodd Tom Little fod y “troseddwr wedi rhoi ei ddwylo o amgylch gwddf [ei wraig], ac fe wnaeth hi edrych arno wrth fethu ag anadlu… Byddai awgrymu nad yw hynny’n ffactor perthnasol wrth ddedfrydu yn ddefnydd anghywir o’r egwyddorion dedfrydu.”

Fe wnaeth e hefyd ddadlau na chafodd dioddefaint Ruth Williams cyn marw ei ystyried yn iawn.

“Iddi hi farw drwy gael thagu gan rywun yr oedd hi wedi’i garu, ac wedi bod mewn perthynas gariadus ag e ers nifer o flynyddoedd, i’w roi e mewn ffordd hynod amrwd, roedd e’n ffordd ofnadwy i farw,” meddai Tom Little.

“Fe wnaeth hi ddioddef wrth iddi farw… nid yw’r dioddefaint hwnnw wedi cael ei adlewyrchu yn yr agwedd tuag at y ddedfryd.”

Dywedodd Tom Little fod yr achos gwreiddiol yn erbyn Anthony Williams yn anghywir wrth ddweud fod ganddo gyfrifoldeb lleihaedig ar y pryd.

“Roedd e’n gyflwr o orbryder ac iselder, nid unrhyw fath o anhwylder seicotig fyddai’n achosi iddo weld lledrithiau.”

“Nid oes dim hanes o reoli nag ymddygiad gorfodol”

Dywedodd yr Arglwydd Ustus Bean fod y lladd yn un “annodweddiadol iawn”.

Fe wnaeth e, a’r ddau farnwr arall, wrthod cais Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol, gan ddweud nad oedd y ddedfryd rhy drugarog.

Dywedodd fod yr erlyniad a’r amddiffyn yn yr achos gwreiddiol wedi dweud fod gan Anthony Williams lefel isel o gyfrifoldeb ar adeg y dynladdiad, a bod y barnwr wedi derbyn hynny.

“Nid yw hyn yn golygu na allai’r llys yma ymyrryd… ond mi fyddai, ar ein hargymhelliad, yn beth rhyfeddol i’r llys yma ddweud fod yr agwedd gymerodd y barnwr ar y pryd yn un nad oedd ganddo hawl i’w chymryd.”

Roedd merch Anthony a Ruth Williams, Emma Williams, yn gwylio’r achos drwy gyswllt fideo, a dywedodd hi wrth yr achos gwreiddiol fod ei rhieni’n “treulio 90% o’u hamser gyda’i gilydd”, ac nad oedd hi erioed wedi clywed nhw’n “codi’u llais” ar ei gilydd.

Fe wnaeth hi ddweud bod ei thad wedi dangos arwyddion o ymddygiad rhyfedd, gan gynnwys dweud ei fod am golli cartref y cwpwl, a datblygu “obsesiwn” gyda throi’r goleuadau a’r gwres i ffwrdd er mwyn arbed arian.

“Nid yw hyn, yn ein golwg ni, yn cael ei ystyried fel achos o gam-drin domestig. Nid oes dim hanes o reoli nag ymddygiad gorfodol, nag unrhyw achosion blaenorol o drais na cham-drin… Ond y gwrthwyneb,” meddai’r Arglwydd Ustus Bean.

Dywedodd y barnwr ei bod yn ymddangos fod y ddau wedi cael “priodas hir a chariadus”.

Ychwanegodd fod Anthony Williams wedi cyfaddef yn syth, ac wedi dangos edifeirwch amlwg.

“Yng nghyd-destun amhariad meddyliol sylweddol y diffinydd, roedd gan y barnwr yn yr achos hawl i gymryd y farn fod hyn yn gwaethygu’r drosedd i raddau cyfyngedig.”

Dywedodd yr Arglwydd Ustus Bean fod gweithredoedd Anthony Williams yn cael eu “hesbonio’n gyfan gwbl gan ei salwch”.

“Nid oedd wedi cael diagnosis, na thriniaeth, i’r salwch hwnnw.”

“Rhy barod i dderbyn esgusion”

Ar ôl y gwrandawiad, dywedodd Harriet Harman, Aelod Seneddol a oedd wedi galw am adolygiad i’r achos, ei bod hi “wedi’i syfrdanu” gan y penderfyniad.

“Mae dweud fod gweithredoedd Williams yn cael eu hesbonio’n gyfan gwbl gan ei salwch yn dangos fod y llysoedd dal yn rhy barod i dderbyn esgusion.

“Nid oes rhaid i gam-drin domestig fod yn barhaus, er, fel arfer, mae e. Gall fod yn un dynladdiad.

“Mae dweud nad yw’n gamdriniaeth ddomestig, pan mae dyn yn lladd ei wraig, yn wirion. Dyma ffurf bennaf, eithaf cam-drin domestig.”

Adolygu dedfryd pensiynwr a gafodd ei garcharu am dagu ei wraig yn ystod y cyfnod clo cyntaf

Fis diwethaf, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, orchymyn adolygiad i farwolaeth Ruth Williams