Mae mwy na 40 o bobl wedi cael eu gwasgu i farwolaeth yn ystod ystod gŵyl grefyddol yng ngogledd Israel.

Yn ôl rhai adroddiadau cafodd 44 eu lladd yn y digwyddiad ac mae tua 150 o bobl wedi eu cludo i’r ysbyty.

Fe ddigwyddd y drychineb ym Mynydd Meron yn ystod dathliadau Lag BaOmer pan mae degau ar filoedd o bobl, Iddewon uniongred yn bennaf, yn dod at eu gilydd.

Mae’r Prif Weinidog Benjamin Netanyahu wedi ei ddisgrifio fel “trasiedi fawr” gan ddweud bod pawb yn gweddïo am y dioddefwyr.

Fe ddigwyddodd y drychineb toc wedi hanner nos ddydd Gwener ac nid yw’n glir ar hyn o bryd beth yn union ddigwyddodd ond mae fideos ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos grwpiau mawr o bobl wedi gwasgu mewn lle cyfyng.

Yn ôl llygad-dyst roedd rhes o bobl wedi syrthio gan wthio pobl eraill i’r llawr wrth geisio rhuthro o’r safle.

Mae’n debyg bod 38 o’r rhai gafodd eu hanafu mewn cyflwr difrifol.

Mae meddygon a thimau achub wedi cael eu hanfon i’r safle i helpu gyda’r digwyddiad.

Dyma oedd y tro cyntaf i ŵyl grefyddol sylweddol gael ei chynnal yn gyfreithlon ers i Israel godi’r holl gyfyngiadau ers dechrau’r pandemig. Roedd achosion o’r coronafeirws yn y wlad wedi gostwng yn sylweddol ar ôl i Israel ddechrau cynllun brechu ar ddiwedd 2020.