Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi addo gwneud pob tref yng Nghymru’n “drefi coediog”, gan blannu coed ar 20% o diroedd ardaloedd trefol.
Byddai’r cynllun hefyd yn golygu plannu coed ar 30% o’r tir mewn ardaloedd sy’n cael eu datblygu o’r newydd.
“Mae hyn yn rhan o amryw o fesurau newydd llym i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, gan gynnwys gwario £1 biliwn y flwyddyn i warchod ein hamgylchedd naturiol, creu swyddi newydd gwyrdd, a chreu economi wyrddach,” meddai Jane Dodds, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i herio newid hinsawdd gyda syniadau lleol, fel plannu coed a fyddai’n glanhau aer y wlad.”
“Ni allwn ni sefyll a gwneud dim”
“Dros y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni gyd wedi dod i werthfawrogi ein hamgylchedd wrth i ni orfod aros yn lleol,” ychwanegodd llefarydd yr amgylchedd y Democratiaid Rhyddfrydol.
“Nid oes amheuaeth ein bod ni’n byw mewn gwlad gyda nifer o ardaloedd hardd, ond mae llawer angen ei wneud er mwyn gadael planed lewyrchus i genedlaethau’r dyfodol.
“Mae angen i ni lanhau’r aer rydyn ni’n ei hanadlu yn ein trefi ar frys, ac nid oes ffordd well o wneud hynny na hybu plannu coed yn ein cymunedau lleol,” meddai Rodney Berman, Cynghorydd Pen-y-lan ar Gyngor Caerdydd.
“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig eisiau Cymru werddach, a glanach, lle rydyn ni’n gwarchod ein hamgylchedd lleol, yn glanhau’r aer, ac yn bwysig iawn, yn creu swyddi lleol gwyrdd.
“Wrth i newid hinsawdd ddod yn fater pwysicach fyth, ni allwn ni sefyll a gwneud dim.
“Bydden ni’n gweithredu er mwyn rhoi adferiad gwyrdd, glanach gyntaf, gan gael trefi i blannu coed a gwarchod eu hamgylchedd lleol.”