Mae elusen sy’n ailgartrefu cŵn “amherffaith” wedi dechrau codi arian ar gyfer agor canolfan fabwysiadu ac adfer yn y Gogledd.

Ers cael ei sefydlu yn 2017, mae Wolfie’s Legacy wedi darganfod cartrefi i 500 o gŵn, ac mae’r elusen angen safle fwy.

Dechreuodd Gill Daghistani, sy’n dod o Dreffynnon, yr elusen ar ôl cytuno i edrych ar ôl ci a gafodd ei achub o Hwngari am ychydig o ddyddiau, cyn iddo fynd i fyw at deulu yn yr Alban.

Ond, ar ôl darganfod fod gan Wolfie afiechyd ar ei asgwrn cefn daeth yn amlwg nad oedd y cartref yn yr Alban yn addas ar ei gyfer, felly fe wnaeth Gill Daghistani ofalu amdano nes iddo farw ddwy flynedd wedyn.

“Pan wnes i ei golli torrodd fy nghalon, ond roeddwn i hefyd yn meddwl ‘beth am yr holl Wolfies eraill?’, meddai Gill Daghistani.

“Beth am y cŵn nad oes neb yn poeni amdanyn nhw? Maen nhw ar fin cael eu rhoi lawr, a ni wneith neb gynnig dwy flynedd olaf hapus iddyn nhw.”

Mae’r elusen yn trio dod o hyd i gartrefi i gymaint o gwn ag anabledd â phosib, gan gymryd cŵn o dros y byd, a dangos yr hwyl sydd i’w gael o fod yn berchen ci “amherffaith”.

Nawr, maen nhw’n gobeithio codi £250,000 i adeiladu canolfan fabwysiadu arbennig ar gyfer cŵn ag anableddau, y cyntaf o’i math yn y Gogledd.

Fel rhan o’r cynlluniau, byddai’r safle yn cynnwys clinig milfeddyg, canolfan adfer hydrotherapi, salon cŵn, a chyfleusterau i gadw’r cŵn.

Mae Gill Daghistani’n partneru cŵn efo’r perchnogion cywir, ac yn dweud ei bod hi’n aml yn ailgartrefu cŵn anabl gyda theuluoedd ag anableddau.

“Mae’r bobol hyn yn dod atom ni oherwydd nad ydyn nhw’n gallu cynnig cartref drwy rai o’r elusennau cŵn mwy, ac rydyn ni’n gallu ffeindio ci sy’n addas ar eu cyfer nhw.”