Mae’r baban cyntaf a aned o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol dros 70 mlynedd yn ôl wedi canmol staff ar ôl derbyn y ddau frechiad Covid-19.

Ganed Aneira Thomas, 72, yn ysbyty Glanaman un funud wedi hanner nos ar 5 Gorffennaf 1948, a chafodd ei henwi ar ôl Aneurin Bevan – sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Bu Mrs Thomas, a aeth ymlaen i fod yn nyrs ac sydd bellach yn fam-gu, yn talu teyrnged i waith y GIG ar ôl iddi dderbyn ail ddos o frechlyn Covid-19 yn y ganolfan frechu dorfol yng Nghanolfan Gorseinon.

Mae’r ganolfan yn cael ei rhedeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

“Diolch i bawb”

“Rwyf newydd gael fy ail bigiad ac eisiau dweud diolch i bawb,” meddai Aneira.

“Roedd y staff yn y ganolfan frechu yn wych. Roeddent yn llawn gwybodaeth ac yn garedig iawn.

“Maen nhw’n gwybod bod pawb ar binnau i ddechrau, yn aros i gael y brechlyn, felly maen nhw’n gysur mawr.

“Aeth yn dda iawn er i mi golli cwsg dros gael y brechlyn i ddechrau oherwydd fy mod yn dioddef o adwaith alergaidd difrifol i wahanol gyffuriau.

“Meddyliais yn ddwfn amdano ond penderfynais fod yn rhaid i mi roi cynnig arni.

“Siaradais hefyd â’m meddyg teulu a roddodd sicrwydd i mi na ddylwn fod ag alergedd i’r brechlyn hwn. Tawelodd fy meddwl, a chafodd ei brofi’n iawn.”

Hold On Edna!

Anogodd Aneira bobl a oedd yn betrusgar am y brechlyn i’w gymryd, a chanmolodd ymchwilwyr a gwyddonwyr gan ddweud eu bod wedi “bod yn anhygoel”.

Diolchodd Mrs Thomas hefyd i weithwyr iechyd proffesiynol a gweithwyr allweddol ledled Prydain am eu gwasanaeth drwy gydol y pandemig.

Mae’r fam-gu wedi ysgrifennu llyfr, o’r enw Hold On Edna!, am ei mam, a arhosodd i sicrhau bod Aneira’n cael ei geni ar ôl hanner nos i gael bod yn faban cyntaf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.