Mae arolwg barn newydd yn atgyfnerthu’r rhagolygon y bydd Llafur yn parhau’n brif blaid yng Nghymru yn sgil etholiad yr wythnos nesa’.

Mae pôl piniwn Sevanta ComRes yn rhagweld y bydd Llafur yn ennill 36% o’r bleidlais yn yr etholaethau, ac yn ennill 31% o’r bleidlais yn rhanbarthau.

Mae’r Ceidwadwyr yn ail yn yr etholaethau (27%) ac yn ail yn y rhanbarthau (24%), ac mae Plaid Cymru yn drydydd yn yr etholaethau (19%) ac yn drydydd yn y rhanbarthau (21%).

Awgryma map etholiadau golwg360, isod, y byddai Llafur yn ennill 26 sedd â’r canlyniadau yma, byddai’r Ceidwadwyr yn ennill 15, 14 sedd fyddai gan y Blaid,  pedair i’r Diddymwyr, ac un i’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Arolwg barn Savanta ComRes Ebrill 2021

Arolwg barn Savanta ComRes Ebrill 2021

Map yn dangos canlyniad posib yn etholiadau’r Senedd.

 

Yr etholaethau

  • Llafur – 36%
  • Ceidwadwyr – 27%
  • Plaid Cymru – 19%
  • Democratiaid Rhyddfrydol – 5%
  • Plaid Diddymu’r Cynulliad – 4%
  • Reform UK – 4%
  • Eraill – 5%

Y rhanbarthau

  • Llafur – 31%
  • Ceidwadwyr – 24%
  • Plaid Cymru 21%
  • Plaid Diddymu’r Cynulliad – 8%
  • Democratiaid Rhyddfrydol – 5%
  • Y Blaid Werdd – 3%
  • Reform UK – 3%
  • UKIP – 2%
  • Eraill – 3%

Annibyniaeth

Holwyd hefyd am annibyniaeth i Gymru, ac (o eithrio’r rheiny a oedd yn ansicr) mae’r arolwg barn yn dangos bod 32% o blaid Cymru annibynnol a 68% yn erbyn.

 

Dau bôl yn dweud dim?

Jason Morgan

YouGov ac Opinium yn rhyddhau polau – ond a oes unrhyw beth o werth i’w weld mewn difri?