Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhybuddio unrhyw un sy’n bwriadu bod yn rhan o anhrefn yn Aberystwyth neu’r Trallwng y penwythnos hwn y bydd “camau cadarn” yn cael eu cymryd yn eu herbyn.

Mae swyddogion wedi derbyn gwybodaeth sy’n awgrymu, rywbryd dros benwythnos gŵyl y banc, fod “unigolion o’r Trallwng ac Aberystwyth” yn bwriadu cynnal ymladdfa, neu drais ac anhrefn, a hynny wedi’i drefnu ymlaen llaw.

Mae’r Heddlu yn credu mai’r cynllun yw i bobl sy’n bwriadu cymryd rhan gyfarfod yn Aberystwyth, a bod potensial mawr ar gyfer anhrefn yn sgil hynny.

“Llygad barcud”

Dywedodd yr Arolygydd Matthew Price: “Mae’r sefyllfa’n cael ei hadolygu’n gyson, ac mae mwy o wybodaeth yn cael ei chasglu.

“Mae Heddlu Dyfed-Powys wrthi’n gweithio’n rhagweithiol i atal unrhyw gyfleoedd i hyn ddigwydd, ac mae cynlluniau plismona’n cael eu rhoi ar waith yn Aberystwyth a’r Trallwng, a fydd yn gweld adnoddau ychwanegol yn patrolio’r ardaloedd hyn i fonitro hyn yn ofalus.

“Mae ein cydweithwyr yn Heddlu Trafnidiaeth Prydain hefyd yn ein cynorthwyo gyda’r gwaith hwn, a byddant yn cadw llygad barcud ar y rhwydwaith rheilffyrdd rhwng y ddau leoliad y penwythnos hwn.

“Ni fydd y math hwn o ymddygiad yn cael ei oddef, ac os bydd unrhyw un yn cymryd rhan mewn trais neu anhrefn fel hyn, bydd camau cadarn yn cael eu cymryd yn eu herbyn.”

Anogir unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y mater hwn, neu sy’n gweld neu’n clywed unrhyw beth amheus, i gysylltu â’r heddlu drwy ffonio 101.